Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIPCTM yn addo ei gefnogaeth i bersonél a theuluoedd y Lluoedd Arfog

Yr wythnos hon, atgyfnerthodd BIPCTM ei ymrwymiad i gefnogi teulu’r lluoedd arfog drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog. 

Mae’r Cyfamod yn addewid ar draws y sefydliad i sicrhau bod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg wrth ddefnyddio gwasanaethau’r GIG ac nad ydyn nhw’n wynebu unrhyw anfantais o’u cymharu â dinasyddion eraill. Cafodd y cyfamod ei lofnodi gan y Prif Weithredwr, Paul Mears, a Swyddog Cymorth Gweithrediadau Catrodol, Capten Huw Williams, Catrawd Feddygol Aml-rôl 203 (Cymru), yr ymunodd cynrychiolwyr eraill o luoedd arfog Cymru a chydweithwyr bwrdd iechyd i nodi’r achlysur.

Dywedodd Paul Mears: “Wrth lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog rydym yn cydnabod cyfraniad enfawr ein lluoedd arfog a phwysigrwydd sicrhau eu bod nhw, a’u teuluoedd yn cael mynediad at y gofal a’r cymorth GIG sydd eu hangen arnyn nhw.

“Rydym hefyd am adeiladu ar ein partneriaeth bresennol, gan godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i’n staff ac i bersonél y lluoedd arfog sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol, tra’n rhannu sgiliau a gwybodaeth.”

 

 

28/03/24