Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn hynod o drist o orfod cyhoeddi marwolaeth ein cydweithiwr, Mark David Simons, fu farw o COVID-19 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yr wythnos ddiwethaf

Roedd Mark, oedd yn 59, yn gweithio i’r Bwrdd Iechyd fel gweithiwr cymorth gofal iechyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae’n gadael 2 fab, Liam a Calum, a’i fam, Audrey Simons.

Meddai’r Prif Weithredwr, Paul Mears: “Rydyn ni i gyd yn hynod drist o glywed am farwolaeth Mark a hoffem ni roi ein cydymdeimladau i’w deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr agos.

“Roedd Mark yn aelod gwerthfawr ac ymroddgar o dîm CTM yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a bydd yn golled fawr i bawb oedd yn ei adnabod ac i bawb oedd yn gweithio gyda fe.

“Yn naturiol, mae marwolaeth Mark wedi ennyn sylw ar draws ein Bwrdd Iechyd, ond rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r effaith drist mae hyn yn ei chael ar gydweithwyr agos Mark. Hoffwn i ddiolch i’r staff oedd yn gweithio gyda Mark am eu hymroddiad parhaus a’r cymorth maen nhw wedi ei roi i’w gilydd ac i deulu Mark.

“Mae pawb oedd yn adnabod Mark yn dal i fod yn ein meddyliau yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Fel teyrnged i Mark, bydd y Bwrdd Iechyd yn cynnal munud o dawelwch ddydd Llun 23 Tachwedd am 9am.