Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Iechyd Gwyrdd Cymru gyda gwefan newydd ac ailfrandio

Mae Iechyd Gwyrdd Cymru wedi lansio gwefan ac ailfrandio newydd, fel rhwydwaith Cymru gyfan ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau gofal iechyd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal yn ystyriol o’r hinsawdd.

Mae 4.4% o allyriadau carbon byd-eang yn cael eu priodoli i iechyd a gofal. Yng Nghymru, mae gennym dargedau sy’n gyfreithiol rwymol i gyrraedd y nod o allyriadau sero-net erbyn 2050, ac uchelgais i’r sector cyhoeddus, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fod yn sero net ar y cyd erbyn 2030. Mae Iechyd Gwyrdd Cymru eisiau gweld newid.

Maent am sicrhau bod gofal iechyd yng Nghymru yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n sicrhau'r canlyniadau iechyd mwyaf cadarnhaol ac yn osgoi gwastraff ariannol ac effeithiau amgylcheddol niweidiol, gan ychwanegu gwerth cymdeithasol ar bob cyfle. Mae'r rhwydwaith yn gweithredu fel angor ar gyfer datblygu iechyd a gofal cynaliadwy.

Mae'r wefan newydd yn rhoi cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gysylltu ag eraill sy'n cymryd camau cynaliadwy, yn ôl lleoliad neu arbenigedd. Gall ymwelwyr â'r safle hefyd ddysgu mwy am yr argyfwng hinsawdd o gasgliad o adnoddau a darllen straeon sy'n amlygu’r trawsnewidiad sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Gall y rhai sy'n dymuno gwneud hynny, gofrestru a dod yn aelodau o Iechyd Gwyrdd Cymru i dderbyn gwybodaeth reolaidd, wedi'i theilwra'n syth i'w mewnflwch.

Mae'r ailfrandio wedi'i gyflwyno i sefydlu nodau a gweledigaeth Iechyd Gwyrdd Cymru ymhellach. Mae'r logo'n canolbwyntio ar y tair prif agwedd:

  • Cysylltu: dotiau. Mae'r rhain yn cynrychioli'r rhwydwaith o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd eu hangen i greu newid cynaliadwy.
  • Dysgu: dail. Er mwyn chwarae rhan weithredol wrth gyfyngu ar y codiad mewn tymheredd byd-eang, mae angen i ni ddysgu am yr argyfwng hinsawdd, mae angen i ni dyfu ac addasu.
  • Trawsnewid: cylch. Mae pobl yn amddiffyn y blaned. Mae'r blaned yn amddiffyn pobl. Mae straeon yn cael effaith gylchol, maen nhw'n ysbrydoli ac yn creu newid pellach.

Mae'r ail-lansiad hwn yn adeiladu ar y gwaith pwysig a wnaed eisoes gan yr aelodau sefydlu: Bu Dr Tom Downs a Dr Gwenllian Rhys, dau feddyg sylfaen, ynghyd â’r

fferyllydd Yasmina Hamdouri, yn arwain grŵp o staff yn eu gweithle yn Ysbyty Gwynedd i greu Grŵp Gwyrdd yn yr ysbyty.

Ochr yn ochr â hyn, gwnaeth Dr Fiona Brennan, anesthetydd ymgynghorol sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n gweithio i ddod â newidiadau cynaliadwy allweddol i ymarfer clinigol, gysylltu â’r cymrawd arweinyddiaeth cyntaf mewn gofal iechyd cynaliadwy, y deintydd Dr Amarantha Fennell-Wells, a ganwyd y syniad o rwydwaith ar gyfer gofal iechyd cynaliadwy yng Nghymru. Cafodd Dr Sarah Williams, cyd-sylfaenydd rhwydwaith Greener Practice Cymru a arweinir gan feddygon teulu, a’i chydweithiwr, y pediatregydd a Chymrawd Arweinyddiaeth Glinigol Cymru mewn Gofal Iechyd Cynaliadwy, Dr Stacey Harris, gefnogaeth gan Gomisiwn Bevan i gysylltu â Tom, Gwen, Fiona ac Amarantha i gefnogi twf a datblygiad Iechyd Gwyrdd Cymru. Dywedodd Sarah Wiliams 'Gyda'n gilydd, mae Stacey a minnau wedi gweithio gyda chydweithwyr o'r un anian i roi Iechyd Gwyrdd Cymru ar y map, gan gysylltu'r GIG cyfan yng Nghymru, Llywodraeth Cymru a system o rwydweithiau cynaliadwyedd gweithredol.'

Mae Iechyd Gwyrdd Cymru yn angerddol am rymuso’r holl staff gofal iechyd gyda gwybodaeth am argyfwng yr hinsawdd a’i effaith ar ofal iechyd, ac wedi cyflwyno nifer o ddigwyddiadau dysgu i sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru. Wrth i’r tîm sy’n tyfu’n barhaus adeiladu ar ei sylfeini, maent yn gobeithio creu mwy o gyfleoedd i ddysgu am y mater hwn, a chreu gweithlu sy’n cael ei ysbrydoli i gyflawni camau trawsnewidiol o fewn ei rôl ym maes gofal iechyd, gan ledaenu arferion cynaliadwy arloesol ledled y wlad i ddarparu GIG sy’n ystyriol o’r hinsawdd yng Nghymru.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r rhwydwaith neu sydd eisiau dysgu mwy, gofrestru yn https://greenhealthwales.co.uk/contact

I ddathlu lansiad greenhealthwales.co.uk rydym yn cynnig cyfle i ENNILL Antur Dŵr Cymru gwerth £100 gan gynnwys:

  • Sesiwn padlfyrddio, ceufadu neu ganŵio ar gyfer 4 oedolyn (neu oedolion a phlant 6 oed ac yn hŷn) yn Llyn Llandegfedd and Llyn Llys-y-frân neu Gronfeydd Dŵr.
  • Dyddiadau: Unrhyw amser yn amodol ar argaeledd yn ystod eu horiau agor, 7 diwrnod yr wythnos rhwng Medi 1af a Hydref 31ain 2023

I GYMRYD RHAN: Cofrestrwch i fod yn aelod o Iechyd Gwyrdd Cymru yma: greenhealthwales.co.uk/contact. Cystadleuaeth yn cau 31 Awst

 

22/08/2023