Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl yng Nghymru i gael y brechlyn am ddim rhag y ffliw

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog yr holl bobl gymwys yng Nghymru i gael eu brechlyn ffliw am ddim wrth i GIG Cymru ddechrau ei raglen genedlaethol fwyaf erioed i frechu rhag y ffliw.

Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sy'n hŷn neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i gymhlethdodau o ganlyniad i'r ffliw. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw.

Dywedodd Becky Thomas, Uwch-nyrs dros Wella ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’r adeg honno o’r flwyddyn bron wedi cyrraedd pan fydd y ffliw yn mynd o gwmpas yn ein cymunedau, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud ein gorau nid yn unig i’n hamddiffyn ein hunain ond i amddiffyn eraill hefyd.

“Efallai bod rhieni oedrannus gyda chi neu blant sy’n wynebu risg, neu efallai bod teulu gyda chi sydd gyda chlefydau fel Diabetes. Os felly, mae’n bwysig iawn i chi gael y brechlyn rhag y ffliw cyn gynted â phosibl.

Bydd plant rhwng 2 a 10 oed (eu hoedran ar 31 Awst 2020) unwaith eto yn cael cynnig y brechlyn ffliw ar ffurf chwistrelliad trwy’r trwyn, er mwyn eu hamddiffyn rhag dal y ffliw a’i ledaenu. Gall plant 2 a 3 oed gael y brechlyn yn eu meddygfa, a bydd plant ysgolion cynradd yn ei dderbyn yn y ysgol fel arfer.

Ar wahân i’r grwpiau oedd gyda hawl i gael brechlyn o’r blaen, mae grwpiau newydd o bobl wedi eu hychwanegu ar gyfer rhaglen dymhorol y ffliw eleni.

Mae'r grwpiau cymwys newydd yn cynnwys cysylltiadau cartref ar restr y GIG o'r bobl a warchodir a phobl ag anabledd dysgu. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd pobl 50 oed a throsodd hefyd yn cael cynnig brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn ddiweddarach yn y tymor.

I hyrwyddo'r brechlyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n cynnwys hysbyseb deledu a radio newydd yn ogystal â chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol a digidol. Bydd yr hysbyseb ar y teledu yn cael ei darlledu gyntaf ar 5 Hydref.

Datgelodd ymchwil a wnaed gan YouGov ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 50 y cant o'r ymatebwyr hynny y byddai hawl gyda nhw i gael brechlyn o'r farn bod cael brechlyn ffliw yn ‘llawer pwysicach’ eleni o ganlyniad i'r Coronafeirws Newydd (COVID-19).

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Eleni rydym yn ymestyn y brechlyn ffliw i fwy o bobl nag erioed o'r blaen. Mae ffliw yn lledaenu'n hawdd iawn a gall unrhyw un ei gael. Fodd bynnag, mae'n arbennig o beryglus i bobl sy'n fwy agored i niwed, fel y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor a menywod beichiog.

“Rwy'n deall y gall rhai pobl fod yn bryderus am fynd i'w fferyllfa gymunedol neu feddygfa meddyg teulu i gael eu brechlyn oherwydd COVID-19, ond bydd meddygfeydd a fferyllfeydd yn dilyn yr arferion diogelwch diweddaraf.

Meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae feirysau'r ffliw yn lledaenu'n hawdd a gallant fod yn ddifrifol iawn i bobl hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd. Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty neu unedau gofal dwys gyda'r ffliw.

“Dylai unrhyw un yr argymhellir eu bod yn cael brechiad rhag y ffliw drefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl.

“Mae feirysau'r ffliw yn newid bob blwyddyn felly mae pawb mewn perygl o gael y ffliw. Mae'r brechlyn rhag y ffliw yn amddiffyn tri i chwech o bob 10 o bobl sy'n cael eu brechu. Dyma pam ei bod mor bwysig cael y brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn – i sicrhau eich bod yn cael yr amddiffyniad gorau posibl.”

Gall unrhyw un ddal y ffliw. Mae'r symptomau yn debygol o gynnwys; twymyn, oerfel, blinder a gwendid, pen tost, poenau cyffredinol a pheswch sych, ar y frest. Mewn hyd at hanner yr achosion gall pobl gael ffliw heb hyd yn oed sylweddoli hynny – a gallant ei ledaenu i eraill o hyd.

Mae rhai symptomau COVID-19 yn debyg i'r ffliw felly edrychwch ar y cyngor diweddaraf a dilyn y canllawiau presennol ar COVID-19.

I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch ‘Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa.’

Y tymor ffliw hwn, efallai y bydd y trefniadau yn wahanol oherwydd y Coronafeirws Newydd (COVID-19). Ewch i www.curwchffliw.org am y wybodaeth ddiweddaraf