Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdy creadigol newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Canfod Gobaith mewn Colled a Phrofedigaeth

Finding Hope within Loss

Mae Gwasanaeth Caplaniaeth ein Bwrdd Iechyd, ynghyd â'n Gwasanaeth Celfyddydau mewn Iechyd, wedi dechrau (Hydref 5) beilot arloesol gyda'r nod o gefnogi pobl drwy alar, marwolaeth a cholled drwy ddefnyddio'r celfyddydau creadigol.

Ein gweithdy cymunedol newydd, ‘Canfod Gobaith mewn Colled a Phrofedigaeth’ yw’r cyntaf o’i fath yng Nghwm Taf Morgannwg, ac mae’n gydweithrediad â’n partner CTM2030 – Prosiect Cymunedol y Goleudy, sydd wedi’i leoli yn Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.

Dros chwe sesiwn, bydd arweinydd Caplaniaeth CTM, Wendy Evans a Chydlynydd y Celfyddydau ac Iechyd, Esyllt George yn defnyddio dulliau creadigol i alluogi cyfranogwyr i rannu syniadau a theimladau am alar, colled a phrofedigaeth. Bydd hyn yn cynnwys delweddu creadigol, creu stori, darlunio, ysgrifennu creadigol a cherddoriaeth.

Wrth gychwyn y cynllun peilot heddiw, dywedodd Wendy Evans, arweinydd caplaniaeth CTM:

“Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i arwain cyfranogwyr yn ddiogel, ar eu cyflymder eu hunain, ar daith o rannu a chefnogi. Yn ystod pob sesiwn, bydd cyfle i fyfyrio ar bynciau galar, marwolaeth a cholled, sydd weithiau yn gallu bod yn anodd eu trafod neu eu rhannu mewn bywyd bob dydd. Rydym wedi dylunio llyfryn creadigol fel adnodd i helpu pawb sy’n cymryd rhan yn y sesiynau.

“Rydym mor falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymuned leol, i dynnu sylw at fanteision y celfyddydau creadigol ac i ddod â gobaith i bobl sy’n cael eu heffeithio gan deimladau o golled a phrofedigaeth”.

Yn ystod yr haf, cynhaliwyd sesiwn ymchwiliol gychwynnol yn Tonyrefail, gyda chyfranogwyr yn awyddus iawn i raglen gymorth fanylach gychwyn.

Mae ‘Canfod Gobaith mewn Colled a Phrofedigaeth’ wedi datblygu o bartneriaeth gymunedol a ffurfiwyd gyda Phrosiect Goleudy ym mis Mawrth 2022, yn dilyn digwyddiad ymgysylltu cymunedol i drafod gwaith ein Bwrdd Iechyd tuag at strategaeth sefydliadol newydd – CTM2030: Ein Hiechyd, Ein Dyfodol.

Yn ystod y digwyddiad, gofynnwyd i drigolion rannu unrhyw faterion allweddol o bwys iddynt; pethau bob dydd sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles cyffredinol. Nodwyd bod ymdopi â phrofedigaeth a cholled yn faes allweddol o bwysigrwydd cymunedol.

Os ydych chi’n meddwl y byddai hyn o ddiddordeb i’ch cymuned leol, cysylltwch â Wendy neu Esyllt i drafod eich anghenion ymhellach - Wendy.Evans8@wales.nhs.uk a Esyllt.George@wales.nhs.uk