Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Mamolaeth yn ennill gwobr genedlaethol

Enillodd Gwasanaethau Mamolaeth cwmni CTM yr wythnos hon wobr 'Cyfadran y Flwyddyn' yn seremoni wobrwyo PROMPT Wales erioed.

Mae PROMPT (PRactical Obstetric Multi-Professional Training) yn becyn hyfforddi aml-broffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer argyfyngau obstetreg ac mae'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan dimau yn CTM. Mae'n gysylltiedig â gwelliannau uniongyrchol mewn canlyniadau i famau a babanod drwy wella gwybodaeth, sgiliau clinigol a ffactorau dynol.

Dywedodd Sarah Fox, Pennaeth Bydwreigiaeth a Gynecoleg y Bwrdd Iechyd: "Rydym yn gwbl falch ein bod wedi ennill y wobr yn y categori hwn sy'n adlewyrchu'r gwaith amlddisgyblaethol trawiadol yn ein gwasanaeth."

Mae enillwyr CTM eraill yn cynnwys:

  • Bydwraig, Rachel Phillips | Enillydd, Chwaraewr Tîm Lleol
  • Anesthetydd Ymgynghorol, Dan Bruynseels | Enillydd, Cefnogi'r Tîm Cenedlaethol
  • Tîm bydwreigiaeth PROMPT cymunedol | Enillydd, Y Senario Gorau
  • Obstetrydd Ymgynghorol, George Haroun | Ail safle, Ysbryd Tîm
  • Bydwraig, Lucy Hobbs | Ail safle, Chwaraewr Tîm Lleol
  • Bydwraig, Toni Balman | Ail safle, Prif Actor mewn senario

 

13/01/2023