Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth 111 GIG Cymru – y dewis cyntaf i gleifion lleol

Mae ymchwil ddiweddaraf gan YouGov (ar ran Llywodraeth Cymru) yn dangos bod pobl ar draws cymunedau Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr / Merthyr / Rhondda Cynon Taf, yn dod i arfer â throi at Wasanaeth 111 GIG Cymru ar-lein, neu trwy'r llinell ffôn 111 pan fyddan nhw’n dost, a hynny cyn mynd i unrhywle arall.  Mae'r defnydd hwn o Wasanaeth 111 GIG Cymru yn helpu cleifion i ddod o hyd i’r gwasanaethau yn y GIG sydd eu hangen arnyn nhw, a hynny yn gyflymach ac yn fwy hwylus.

Mae Gwasanaeth 111 GIG Cymru yn ffordd fwy effeithlon o gael gafael ar ofal iechyd a chyngor ar gyfer cyflyrau brys ar draws yr ardal, lle nad yw’r cyflyrau hyn yn peryglu bywyd.

Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu pobl i wirio eu symptomau trwy’r gwiriwr symptomau ar-lein, sydd wedyn yn eu helpu i ddod o hyd i’r cymorth priodol. Gall y gwiriwr symptomau ar-lein gyfeirio unigolion i'r lle iawn yn dibynnu ar eu hanghenion iechyd, yn seiliedig ar y wybodaeth mae’r defnyddiwr yn ei darparu.  Gallai hyn gynnwys y fferyllfa, yr Uned Mân Anafiadau neu wasanaeth arall fel meddyg teulu.  Fel arall, gall cleifion ffonio'r rhif 111 (sy’n rhad ac am ddim) i gael cyngor tebyg dros y ffôn, a lle bo angen, bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ffonio’n ôl.

 

Canfyddiadau allweddol am gymunedau Cwm Taf Morgannwg:

  • Mae tua 65% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolygwg yn hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau di-frys y GIG ar-lein ac am ffonio. Fodd bynnag, dydyn nhw ddim yn gwybod yn aml y gallan nhw gael eu hasesu dros y ffôn a'u trin yn gyflymach o ganlyniad i ddefnyddio Gwasanaeth 111 GIG Cymru.
  • Dywedodd 45%, wrth wynebu argyfwng nad oedd yn peryglu bywyd, y bydden nhw’n dewis ffonio’r Gwasanaeth 111 a byddai 32% yn mynd i wefan Gwasanaeth 111 GIG Cymru. Byddai 34% yn cysylltu â'u meddyg teulu, tra byddai dros chwarter yn mynd yn syth i adrannau Brys neu i Unedau Mân Anafiadau.
  • Trwy ddefnyddio Gwasanaeth 111 GIG Cymru, gellid eu gweld a'u trin yn gyflymach. Gallai hyn fod o ganlyniad i gyngor i ddefnyddio gwasanaeth GIG gwahanol, cael galwad ffôn yn ôl gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, neu hyd yn oed gael apwyntiad yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu yn yr Uned Mân Anafiadau.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r rhai a holwyd yn teimlo'n hyderus yn defnyddio gwefan Gwasanaeth 111 GIG Cymru neu’r gwiriwr symptomau ar-lein (65%) i gael cyngor ar gyfer salwch neu anaf nad yw'n peryglu bywyd.
  • Roedd y mwyafrif (64%) hefyd yn gyffyrddus yn ffonio 111 am gyngor gyda salwch neu anaf brys nad oedd yn peryglu bywyd.
  • Nid oedd 20% o'r bobl leol a holwyd yn argyhoeddedig y byddai hyn yn eu galluogi i siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar unwaith, a dim ond 17% oedd yn gwybod y gellir trefnu apwyntiadau mewn rhai Unedau Mân Anafiadau wrth ffonio 111.

Dywedodd Dr Owen Weeks, Cyfarwyddwr Clinigol Dros Dro ar gyfer Gofal Sylfaenol Brys yn BIP CTM:

“Mae ymddiriedaeth pobl mewn ymgynghoriadau ar-lein a dros y ffôn ar gyfer gofal heblaw gofal brys yn hollbwysig i sicrhau bod ein cymunedau’n gallu dod o hyd i’r gwasanaeth GIG iawn ar eu cyfer, a hynny yn gyflymach.  Mae sicrhau bod pobl yn gyffyrddus yn gwirio eu symptomau ar-lein, a’u bod yn cael help i ddewis yr opsiwn iawn o blith yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael gan y GIG, yn gyfle gwirioneddol i wella gofal a thriniaeth amserol a phriodol .

“Gall fod yn ddryslyd ac yn anodd gwybod beth yw’r llwybr gorau: os yw’n peryglu bywyd, dylai cleifion ffonio 999. Os yw’n broblem gyson, dylai cleifion gysylltu â'u darparwr gofal iechyd arferol. Os yw cleifion yn ansicr, gallan nhw ddefnyddio gwefan Gwasanaeth 111 GIG Cymru, y gwiriwr symptomau neu’r llinell ffôn i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.

“Dylai defnyddio GIG 111 Cymru hefyd leihau’r nifer o bobl sy’n ffonio 999 er nad oes argyfwng, gan sicrhau y gall ein criwiau ambiwlans gyrraedd y cleifion hynny â salwch neu anaf difrifol sydd angen triniaeth cyn gynted â phosibl.”

 

Beth yw GIG 111 Cymru?

  • Gwefan (chwiliwch am GIG 111 Cymru) a gwiriwr symptomau ar-lein - ffordd gyflym a chyfleus i chi gael gafael ar wybodaeth a chyngor ble bynnag, a phryd bynnag, y mae eu hangen arnoch.
  • Llinell ffôn 24 awr (ffoniwch 111). Weithiau, mae'n ddefnyddiol siarad â pherson. Felly, os na allwch chi ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan GIG 111 Cymru, neu os ydych chi wedi cwblhau'r gwiriwr symptomau ac mae'n awgrymu eich bod yn ein ffonio ni, neu os ydych chi'n dal i boeni amdanoch chi eich hun neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, gallwch chi ffonio 111 a chael cyngor ar beth i'w wneud nesaf.

Pryd ddylwn i ei ddefnyddio?

  • Y gwasanaeth hwn ddylai fod eich dewis cyntaf chi os ydych chi'n anhwylus ond ddim yn siŵr beth sy'n bod, neu os oes cyflwr neu anaf brys gyda chi ond nad yw'n peryglu bywyd.

Pa fath o gyngor y bydda i’n ei gael ar y ffôn?

  • Mae gwasanaeth ffôn Gwasanaeth 111 GIG Cymru yn caniatáu i chi:
    • Cael cyngor trin-eich-hun
    • Darganfod pa wasanaeth iechyd lleol all eich helpu chi, neu sut i gael unrhyw foddion y gallai fod eu hangen arnoch chi.
    • Siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Beth os yw'n argyfwng?

  • Dylech chi ffonio 999 bob amser ar gyfer argyfyngau neu anafiadau sy'n bygwth bywyd ac sy’n wirioneddol ddifrifol, fel tagu, ataliad ar y galon, strôc a cholli gwaed yn ddifrifol.

 

Nodiadau'r golygydd

Daw'r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, gan YouGov.  Cyfanswm maint y sampl oedd 1000 o oedolion. Gwnaed y gwaith maes rhwng 16-20 Ebrill 2021.  Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigurau wedi'u pwysoli ac maent yn gynrychioliadol o holl oedolion Cymru (18+).