Neidio i'r prif gynnwy

Gardd goffa Pili-palod newydd yn agor yn Ysbyty'r Tywysog Siarl

Heddiw, dydd Mawrth 1 Awst, agorodd yr Ardd Goffa Pili-palod yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, sef lle newydd i deuluoedd sy’n galaru gofio babanod a garwyd ac a gollwyd.

Mae'r ardd newydd hardd ar gael i deuluoedd sydd am gymryd ychydig o amser i fyfyrio ac i gofio eu rhai bach.

Dywedodd Andrea Byrne, cyflwynydd ITV Wales, a agorodd yr Ardd Pili-palod yn swyddogol heddiw: “Mae’n wych bod yma heddiw i agor yr Ardd Pili-palod ac i gofio’r babanod hynny a gollwyd. Mae'n bwysig iawn i deuluoedd gael man tawel fel yr ardd hon lle gallan nhw eistedd a myfyrio a siarad ag eraill am eu colled os ydyn nhw’n dymuno. Dwi’n rhywun sydd wedi profi colled babi ar sawl achlysur, felly mae hyn yn agos iawn at fy nghalon ac mae’n bwysig cefnogi teuluoedd a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth y gellir ei ddarparu i deuluoedd.”

Dyma Myscha-Dene Bates, Bydwraig Arweiniol  Arbenigol ar gyfer Profedigaeth yn esbonio mwy: “Mae’r cysyniad o ardd goffa mewn ysbyty yn rhywbeth rydyn ni wedi bod eisiau ei ddatblygu ar gyfer ein teuluoedd ers peth amser. Mae llawer o’n teuluoedd dewr, sy’n anffodus yn dioddef colli babi, yn sôn am y cysur maen nhw’n cael wrth ddychwelyd i’r un lle y byddai eu plentyn bach a’r teulu yn debygol o fod wedi treulio’r rhan fwyaf o’u hamser byr, ond gwerthfawr gyda’i gilydd.

“Wrth ystyried hyn, roeddem am weithio tuag at ddatblygu ardal coffa awyr agored dawel i deuluoedd ymweld â hi ar y safle, ar ôl colli eu babi.

“Yma gallan nhw gymryd amser i fyfyrio, ychwanegu calon coffa yn ein wal coffa pili-palod, postio 'llythyr i'r nefoedd' trwy'r 'blwch postio i'r nefoedd', neu blannu rhywbeth i'w babi. Mae manteision bod yn yr awyr agored mewn mannau gwyrdd wedi’u dogfennu’n dda ac yn hysbys eu bod yn hynod fuddiol i les emosiynol. Felly bydd hwn hefyd yn fan lle bydd gweithdai therapi celfyddydau creadigol awyr agored gyda ni yr haf hwn, i fenywod a theuluoedd sy’n galaru.

“Mae’r oriau hir a’r ymdrechion helaeth sydd wedi mynd i mewn i’r prosiect hardd hwn yn dyst i beth mae’n ei olygu, nid yn unig i’n tîm mamolaeth, ond i’r sefydliadau ehangach sy’n cymryd rhan, ac yn bwysicaf oll, y teuluoedd sy’n parhau i fod wrth galon ein gwasanaeth. ”

Mae wal coffa pili-palod ar gael i deuluoedd lle gallan nhw ysgrifennu enw eu babanod ar galon, a’i ollwng i’r pili-pala o’u dewis. Cafodd y pili-palod hardd eu creu gan Kliaste Jordan a thîm technoleg yn adran dylunio cynnyrch Prifysgol Metropolitan Caerdydd gan ddefnyddio deunyddiau sydd wedi cael eu talu gan arian a godwyd gan deuluoedd lleol.

Cafodd y gwaith o adeiladu’r ardd ei gefnogi a’i oruchwylio gan y contractwr Tilbury Douglas sydd ar hyn o bryd yn cwblhau’r gwaith adnewyddu gwerth £260m yn yr Ysbyty, a hefyd Darlow Lloyd Construction.

Yn sefyll yng nghanol yr ardd mae plannwr casgen wisgi sydd wedi cael ei roi gan Whiskey Barrel Brothers yn y Fenni, yn ogystal â’r goeden sy’n sefyll ynddi o Ganolfan Arddio’r Fenni. Rhoddodd y Clwb Rotari beiriant torri glaswellt i gynnal a chadw'r ardd ac mae Men's Sheds hefyd wedi bod yn gefnogol gyda nifer o agweddau plannu a chynnal a chadw.

Meddai Myscha: “Rydyn ni wedi derbyn cymaint o gefnogaeth wrth greu’r ardd hon a hoffwn ddiolch i bob sefydliad ac unigolyn am eu cyfraniad. Edrychwn ymlaen at groesawu ein teuluoedd i’r ardd yn y misoedd nesaf a gobeithio y bydd yn gysur i gynifer yn ein cymunedau.”

 

01/08/2023