Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd Gwobr Gweithiwr Cymorth Nyrsio 2023

Da iawn i Christian Harris a Kirsten Jenkins, a enillodd 'Wobr Gweithiwr Cymorth Nyrsio' yng Ngwobrau'r Coleg Nyrsio Brenhinol 2023 a gynhaliwyd nos Wener (Tachwedd 10fed).

Mae Gwobrau Nyrsio’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dathlu cyfraniadau anhygoel i ofal cleifion rhagorol ac maen nhw ar agor i holl nyrsys, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, myfyrwyr nyrsio a gweithwyr cymorth nyrsio. Gan gwmpasu ystod eang o arbenigeddau, gan gynnwys nyrsio anabledd dysgu, iechyd plant, nyrsio canser, nyrsio iechyd meddwl a nyrsio pobl hŷn, y gwobrau yw'r anrhydedd uchaf i nyrsys yn y DU.

Mae Christian a Kirsten yn gweithio fel Gweithwyr Cymorth yn uned gwasanaethau cleifion mewnol plant a phobl ifanc yn Ysbyty Tywysoges Cymru.  Maen nhw’n goruchwylio hyfforddiant i atal a rheoli trais ac ymddygiad ymosodol i holl staff yr uned ac yn cyflwyno'r hyfforddiant i fwy na 100 o gydweithwyr, gan sicrhau ei fod wedi'i deilwra ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal â’u dyletswyddau dyddiol fel gweithwyr cymorth nyrsio.

Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddad-ddwysáu a rheoli ymddygiad a allai fod yn heriol ac yn rhoi'r wybodaeth a'r profiad i staff ddelio â sefyllfaoedd o'r fath gyda llai o ddibyniaeth ar gyfyngiadau.

Wrth ennill y wobr, dywedon nhw: "Mae'n fraint cael cydnabyddiaeth fel hyn. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i drafod y gwaith a wnawn a rhannu'r syniadau sydd gennym fel y gall meysydd eraill ddysgu o'n profiad.'

Dywedodd y Pennaeth Nyrsio Lloyd Griffiths a enwebodd Christian a Kirsten:  "Rydym wrth ein bodd bod Christian a Kirsten wedi cael eu cydnabod gyda'r wobr hon. Mae Tŷ Llidiard wedi bod ar daith wella dros y blynyddoedd diwethaf ac mae eu gwaith ar leihau arferion cyfyngol a'u hymroddiad i gynnal safonau hyfforddi a chydymffurfio wedi bod yn rhan annatod o hyn.  Maen nhw’n fodelau rôl angerddol, ymroddedig, rhagorol, sy'n chwarae rhan weithredol mewn cymorth staff ar ôl digwyddiad ac ôl-drafodaeth.

 

14/11/2023