Neidio i'r prif gynnwy

Elusennau yn cydweithio er budd cleifion ym Mhen-y-bont

Mae Faceup Cymru yn helpu i ariannu Uned Gymorth Symudol Gofal Canser Tenovus i ddarparu triniaethau ar gyfer cleifion Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg sydd â chanser y pen a’r gwddf.

Mae Faceup Cymru, elusen a sefydlwyd gan gleifion ac wedi’i gynorthwyo gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn cefnogi pobl sy'n rheoli ac yn delio â diagnosis a thriniaeth canser y pen a'r gwddf.

Mae Gofal Canser Tenovus, sef elusen yng Nghymru, yn cynnig ystod o wasanaethau i gefnogi pobl a effeithir gan ganser. Mae gan yr elusen dair Uned Gymorth Symudol, sy'n teithio ledled Cymru i ddod â thriniaethau canser yn nes at adref.

Gan weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol, mae’r Unedau Cymorth Symudol yn darparu triniaethau gan gynnwys lymffoedema, cemotherapi ac imiwnotherapi. Mae’r Unedau wedi’u sefydlu mewn meysydd parcio lleol, archfarchnadoedd, a lleoliadau cymunedol i gyfyngu ar y straen a'r gost sy'n gysylltiedig â theithio milltiroedd i'r ysbyty.

Bydd y cyllid hwn yn galluogi tîm amlddisgyblaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynnal clinigau wythnosol ar gyfer cleifion canser y pen a’r gwddf ar safle’r Uned Gymorth Symudol yn McArthurGlen, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae nyrs glinigol arbenigol, dietegydd, a therapydd lleferydd ac iaith yn bresennol yn y clinig, sydd ar agor o 08:30 i 16:30 ar ddydd Gwener. Gellir gweld cleifion a'u teuluoedd ar unrhyw adeg yn dilyn eu diagnosis o ganser a chynigir y cyfle iddynt fynychu sesiynau ar reoli materion nyrsio, asesu maeth a chyngor, anghenion llyncu a chyfathrebu, yn ogystal â chefnogaeth a sicrwydd cyffredinol.

Ar hyn o bryd, dim ond trwy apwyntiad y gellir cael mynediad i'r clinig. Fodd bynnag, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn bwriadu treialu slotiau ‘galw heibio’ yn yr Uned er mwyn i bobl gael cyngor neu gymorth ar fyr rybudd, ac ailsefydlu grwpiau addysgol y mae cleifion wedi elwa ohonynt yn y gorffennol.

Aeth Allen Brown i'r Uned i gael archwiliadau yn dilyn triniaeth yn Ysbyty Felindre ar gyfer canser y gwddf.

Meddai: “Roedd mynd i’r “garafán,” fel rydyn ni’n ei alw, yn wych ym mhob ffordd. Roedd peidio â gorfod mynd i'r ysbyty yn gwneud byd o wahaniaeth i mi, ac roedd y cyfan mor gyfleus, wedi'i leoli ychydig i fyny'r ffordd, ac yn agos at y siopau.

Y tu mewn, roedd yr Uned yn gynnes a chroesawgar, a’r nyrsys yn bobl ofalgar, wirioneddol anhygoel, yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl, ac yn gwneud ymweliadau’n fwy o hwyl nag y dylen nhw fod! Mae'n ymddangos yn beth rhyfedd i'w ddweud, ond edrychais ymlaen yn fawr at fy ymweliadau.

Roedd yr holl brofiad wedi’i wneud yn llawer llai brawychus nag oeddwn i erioed wedi meddwl, ac rwy’n ddiolchgar i bawb a wnaeth hynny’n bosibl, gyda bloedd arbennig i’r nyrsys a oedd o’r radd gyntaf.”

Dywedodd Mike Fardy, Faceup Cymru: “Cafodd Faceup ei sefydlu dros 20 mlynedd yn ôl er mwyn darparu cymorth ar draws Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf mewn ffyrdd ysbrydol yn oystal ag yn faterol. Rydym wedi ariannu gweithwyr iechyd proffesiynol amrywiol i gynorthwyo gyda gofal ein cleifion ond, fel ym mhob sector, mae angen i ni esblygu ac edrych ar wahanol ffyrdd o gefnogi ein cleifion.

“Mae’r cydweithrediad hwn yn hynod gyffrous gan ei fod yn galluogi cleifion i gael apwyntiad y tu allan i ffiniau’r ysbyty a chael mynediad at yr arbenigedd unigryw y mae Gofal Canser Tenovus yn ei gynnig. Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r fenter hon a byddem yn croesawu unrhyw gyfleoedd i gydweithredu â’r holl fyrddau iechyd.”

Dywedodd Judi Rhys MBE, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus: “Rydym wrth ein bodd i allu parhau i gydweithio â thîm pen a gwddf Cwm Taf Morgannwg ac rydym yn hynod ddiolchgar i Faceup Cymru am wneud hyn yn bosibl.

“Mae’r clinig wedi bod yn weithredol ers sawl blwyddyn ac wedi’i ariannu’n llawn gennym ni, ond roedd y gost wedi awgrymu dyfodol ansicr. Diolch i gefnogaeth Faceup Cymru, gallwn barhau i ddarparu triniaethau canser hanfodol yng nghanol gymuned – sef gwaith partneriaeth ar ei orau.”

Dywedodd Lisa Love-Gould, Cyfarwyddwr Therapïau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Rydym yn gyffrous iawn i dderbyn y cyllid hwn, a fydd yn caniatáu i ni barhau â’n gwaith. Rydym wedi bod yn gweithio ar wella’r Uned ers dros chwe blynedd. Rydym ni a'r cleientiaid yn teimlo ei bod yn amgylchedd llai ffurfiol a mwy hamddenol. Mae'r lleoliad yn ddelfrydol - yn lleol i lawer o bobl, gyda chysylltiadau trafnidiaeth hawdd a chyfle i ymweld â’r ardal gyfagos. Hoffem ddiolch i Faceup Cymru a Gofal Canser Tenovus am y gwaith caled y maent yn ei wneud, sydd wedi helpu i ddarparu’r cyfle anhygoel hwn.”

 

17/08/2023