Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud - Dyfodol Iach Maesteg

Rydyn ni’n dechrau 2023 drwy ddod â thrigolion lleol a grwpiau cymunedol o Faesteg, a chymunedau ehangach y cymoedd, at ei gilydd i helpu i lywio dyfodol iechyd a gofal ym Maesteg.

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw Ysbyty Cymunedol Maesteg i’r gymuned leol a byddwn ni’n casglu barn ar sut y gallem ddatblygu’r adeilad a’r safle ar gyfer y dyfodol er mwyn diwallu anghenion iechyd a gofal y boblogaeth leol yn well.  

Pa syniadau sydd gennych chi ar sut y gallwn ni sicrhau bod yr Ysbyty Cymunedol yn gyfleuster iechyd a gofal hyd yn oed mwy defnyddiol a hygyrch i bawb?

Yn ystod pedwar digwyddiad cymunedol, a fydd yn cael eu cynnal yng nghanol Maesteg yr wythnos hon (10 a 12 Ionawr), bydd y gymuned leol yn cael ei gwahodd i rannu profiadau personol o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal lleol ac unrhyw syniadau ar sut y gallem ni, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, helpu pobl i fyw bywyd iachach a hapusach – gan gynnwys datblygu Ysbyty Cymunedol Maesteg yn y dyfodol.

Peidiwch â cholli'r cyfle i ddweud eich dweud - gallwch chi gofrestru o hyd ac rydyn ni eisiau cymaint o adborth â phosibl gan gymuned Maesteg!

Os na allwch chi fynd i un o’r digwyddiadau, neu os byddai'n well gennych chi roi adborth ar-lein, rydyn ni wedi llunio ffurflen adborth ar-lein – Dweud eich dweud – Dyfodol Iach Maesteg er mwyn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.  

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar ein tudalen we newydd Dyfodol Iach Maesteg.

Gobeithio gallwch chi alw draw!