Neidio i'r prif gynnwy

Dweud eich dweud - Dyfodol Iach Maesteg

Rydyn ni’n edrych ymlaen at wahodd pobl a grwpiau o Faesteg a chymunedau ehangach y cymoedd i ddod ynghyd ar ddechrau mis Ionawr 2023 i helpu i lywio dyfodol iechyd a gofal ym Maesteg. 

Os oes gennych chi brofiad o ddefnyddio gwasanaethau lleol a syniadau ar sut y gallem helpu pobl i fyw bywydau iachach a hapusach, rydyn ni eisiau clywed gennych! 

Rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw Ysbyty Maesteg i'r gymuned leol ac rydyn ni eisiau i chi ddweud wrthym sut y gallwn ni sicrhau ei fod yn ysbyty hyd yn oed mwy defnyddiol a hygyrch i bawb - yn esiampl o gyfleuster gofal iechyd sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.  

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol yng nghanol Maesteg i drefnu pedwar digwyddiad cymunedol ar gyfer dechrau mis Ionawr 2023.

 

Manylion y Digwyddiadau

Dewch draw i un (neu fwy) o'r pedair sesiwn hyn sydd wedi’u cynllunio:

 

Dydd Mawrth 10 Ionawr 2023

Lleoliad Cymunedol: Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau

Amseroedd: 3pm-5pm a 5.30pm-7.30pm

Cyfeiriad: Canolfan Gymunedol Caerau, Woodlands Terrace, Caerau, Maesteg, CF34 0SR

 

Dydd Iau 12 Ionawr 2023

Lleoliad Cymunedol: Clwb Rygbi Maesteg

Amseroedd: 3pm-5pm a 5.30pm-7.30pm

Cyfeiriad: Llynfi Road, Maesteg CF34 9DS

 

Rydyn ni wedi ymgynghori’n eang ar leoliadau’r sesiynau ymgysylltu hyn er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu bod yn bresennol a chymryd rhan. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau a Chlwb Rygbi Maesteg am weithio mewn partneriaeth â ni i gynnal y digwyddiadau cymunedol.   

Er mwyn ein helpu i gynllunio ar gyfer y digwyddiadau hyn yn effeithiol ac yn ddiogel, gan sicrhau nad ydym yn mynd y tu hwnt i gapasiti ystafelloedd er enghraifft, rydyn ni’n gwahodd trigolion lleol a grwpiau cymunedol i lenwi'r ffurflen gofrestru fer iawn hon

Os ydych chi'n byw ym Maesteg, yna cadwch lygad hefyd am y poster yma sy’n cael ei hysbysebu’n lleol (mewn grwpiau cymunedol ac ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol lleol). Gallwch chi hefyd weld yr holl fanylion ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol CTM ac ar ein tudalen we newydd Dyfodol Iach Maesteg

Rydyn ni’n awyddus i siarad â chynifer o bobl â phosibl ym Maesteg, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad Ysbyty Cymunedol Maesteg. 

Rydyn ni’n gobeithio eich gweld chi yno a phlîs lledaenwch y gair!

#DyfodolIachMaesteg

16/12/2022