Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gwasanaeth yn ystod streic

Ddydd Iau 15 Rhagfyr a Dydd Mawrth 20 Rhagfyr, bydd streic yr RCN yn effeithio ar wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Wrth baratoi ar gyfer y ddau ddyddiad yma, mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio i gadw cymaint o wasanaethau a phosib i gynnal diogelwch cleifion gan amharu cyn lleied â phosib.

Bydd gwasanaethau Adran Frys a Gofal Critigol yn parhau i fod ar gael ar gyfer y cleifion mwyaf difrifol a brys, tra bydd cleifion sy'n disgwyl triniaeth wedi'i chynllunio neu lawdriniaeth cleifion mewnol yn cael eu hail-drefnu cyn gynted â phosib.

Hefyd bydd pob Canolfan Brechu Cymunedol ar gau ar gyfer y diwrnod ar gyfer pob apwyntiad imiwneiddio.  Mae'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan hwn wedi cael gwybod, eu hapwyntiadau wedi'u canslo, ac apwyntiadau newydd yn cael eu hanfon allan. Hefyd ni fydd apwyntiadau cerdded-i-mewn ar 15 Rhagfyr (mae 20 Rhagfyr yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ac yn cael ei gadarnhau maes o law).

Mae cleifion sydd â thriniaeth neu apwyntiadau wedi'u cynllunio ar ddiwrnodau'r streic sy'n cael eu heffeithio yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol gan dimau archebu perthnasol gyda manylion am apwyntiadau wedi'u aildrefnu.

I'r cleifion sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y newidiadau hyn, mae'r Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi y gallai hyn fod yn rhwystredig ond ei fod yn gobeithio bod y cyhoedd yn deall yr angen i gadw gwasanaethau'n ddiogel.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn parchu hawl cydweithwyr i gymryd rhan mewn neu gefnogi streic gyfreithlon mewn modd heddychlon a diogel, gan werthfawrogi'r rhesymau pam y pleidleisiodd llawer o gydweithwyr o blaid taro a diolch i bob claf, cyhoeddus, a chymunedau am eu dealltwriaeth yn y mater hwn.

 

14/12/2022