Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar roddion meddyginiaeth ar gyfer Wcráin

Gwybodaeth i'r cyhoedd sy'n chwilio am gyngor am sut i gefnogi ymdrech ddyngarol Wcráin gyda rhoddion meddyginiaethau.

Rydym yn deall y bydd llawer o bobl yng Nghymru am wneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl Wcráin. O ganlyniad, rydym wedi derbyn nifer o gwestiynau ynghylch rhoi meddyginiaethau presgripsiwn dros ben.

Y cyngor presennol yw na ddylai aelodau'r cyhoedd roi eu meddyginiaethau presgripsiwn i Wcráin.  Yn ogystal â'r heriau logistaidd yn Wcráin, mae allforio a chludo meddyginiaethau yn gymhleth, ac efallai na fydd meddyginiaethau'r DU yn cael eu defnyddio'n rheolaidd yn Wcráin felly fydd meddygon a chleifion ddim yn gyfarwydd â'r meddyginiaethau. Hefyd, dim ond yn Saesneg y bydd gwybodaeth am feddyginiaethau ar gael.

Sut galla i helpu?

Mae ymateb cydgysylltiedig yn y DU i ddarparu cymorth sydd ei angen ar frys i Wcráin. Yn rhan o’r ymdrech hon, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a’r Llywodraethau Datganoledig eraill i drefnu amrywiaeth o eitemau sy’n cynnwys meddyginiaethau, i ymateb i geisiadau penodol gan Lywodraeth Wcráin.

Mae gan wefan Llywodraeth Cymru hefyd dudalen ar gyfer aelodau’r cyhoedd sydd am gefnogi ymdrech ddyngarol Wcráin https://llyw.cymru/sut-y-gallwch-chi-helpu-pobl-yr-wcrain ac mae’n rhoi’r cyngor canlynol:

•         Mae rhoi rhoddion ariannol i sefydliadau sy'n ymateb i'r argyfwng yn Wcráin yn caniatáu i nwyddau cymorth brys gael eu cyrchu'n lleol.

•         Gall unrhyw un sy'n gallu wneud rhodd ariannol i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau

Mae gan wefan Llywodraeth y DU hefyd gyngor ar wneud rhoddion yn ddiogel https://www.gov.uk/government/news/ukraine-what-you-can-do-to-help

 

Beth galla i ei wneud gyda fy meddyginiaeth dros ben?

Ni ddylai unrhyw un arall ddefnyddio unrhyw hen feddyginiaeth neu feddyginiaeth dros ben, ac mae angen ei dychwelyd i fferyllfa gymunedol i'w dinistrio.

Dyma pam y byddwn yn gofyn i gleifion archebu dim ond beth sydd ei angen arnoch chi i'n helpu i leihau gwastraff a lleihau’r costau ariannol ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth ddinistrio meddyginiaeth dros ben.