Neidio i'r prif gynnwy

Demi yn rhannu ei phrofiad o weithio ar y cynllun Kick-starter gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yn mis Rhagfyr 2021, fe ymunodd tri deg o kick-starters gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fel rhan o'r cynllun Kick-start a ariannwyd gan y Llywodraeth.  Mae'r cynllun yn cefnogi pobl ifanc sy'n byw yn ein cymunedau lleol i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a chynyddu eu cyfle ar gyfer cyflogaeth barhaus.

Mae kick-starters ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed fydd yn gweithio am 25 awr yr wythnos ar leoliad am chwe mis. Mae’r cynllun wedi’i ariannu'n llawn.  Roedd eu gwaith yn cynnwys meysydd gweinyddol, clerigol, cyfleusterau a llesiant.

Mae Demi Evans sy’n un ar hugain oed, wedi bod yn rhan o'r rhaglen kick-start ers mis Ionawr 2022. Mae'n gweithio fel clerc gweinyddol i'r gwasanaeth lles o fewn yr adran gweithlu a datblygu sefydliadol.  

Yn ôl Demi: "Mae bod yn rhan o'r cynllun kick-start yn gwneud i mi deimlo'n ffodus.  Pan oeddwn i'n 18 oed, cefais fy hun mewn sefyllfa o orfod gadael y Brifysgol yn gynnar, oherwydd i mi gael merch fach.  O ganlyniad, ychydig iawn o brofiad oedd i mi weithio yn y diwydiant Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sef yr hyn yr oeddwn am ei wneud fel gyrfa.  Rhoddodd y rhaglen kick-start gyfle i mi ddatblygu fy mhrofiad a dysgu sgiliau allweddol newydd, yn ogystal â hyfforddiant, sydd wedi fy helpu i gynyddu fy nghyfle o gael swydd amser llawn yn y dyfodol.

"Mae hefyd wedi agor fy llygaid i weld pa swyddi sydd yn y GIG a Chwm Taf Morgannwg sydd ddim yn gysylltiedig â nyrsio a gofal yn unig.  Mae hyn wedi fy helpu gyda fy newisiadau wrth chwilio am rôl weinyddol arall ar ddiwedd fy mhrofiad kick-start. Dwi'n gobeithio cwblhau’r hyfforddiant, ennill y wybodaeth angenrheidiol a’r sgiliau yn ogystal â’r proffesiynoldeb o'r swydd hon a fydd yn fy rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer unrhyw swydd arall a ddaw yn y dyfodol.

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn anhygoel ac yn hynod gefnogol o ran hyblygrwydd a hyfforddiant.  Mae’r tîm a'm cydweithwyr yn garedig, yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig. Dyma griw gwych o bobl i gydweithio gyda nhw.  Roeddwn i'n teimlo bod croeso mawr i mi a fy mod i’n rhan o'r tîm o'r cychwyn cyntaf. Dydyn nhw ddim yn fy nhrin yn wahanol i unrhyw un arall sydd wedi gweithio yno am amser hir.  Dwi'n falch o fod yn rhan o dîm mor anhygoel a dwi mor falch fy mod wedi dechrau'r rhaglen kick-start."

Yn ol Heather Lloyd-Jones sy’n swyddog cefnogi prosiectau lles ac sy’n gweithio gyda Demi: "Rydym yn falch o fod wedi gallu darparu lleoliad i Demi a'i chefnogi i ddatblygu'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arni ar gyfer y dyfodol. Mae hi wedi bod yn aelod gwerthfawr o'n tîm ac wedi cael effaith ar sut rydym ni’n rheoli tasgau a gweithgareddau penodol.  Mae Demi yn awyddus i ddysgu, yn chwaraewr tîm go iawn. Mae'n awyddus iawn pob amser i geisio cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau. Roedd gallu cefnogi'r rhaglen kick-start yn bwysig i ni fel Gwasanaeth Lles ac rydym ni’n falch iawn o fod wedi gallu cynnig cyfle i Demi i ddatblygu a thyfu."