Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar draws ein safleoedd, gan gydnabod y cyfraniad eithriadol y mae menywod yn ei wneud yn ein bwrdd iechyd a’n cymunedau.

Rydyn ni’n gwybod fod delio â symptomau menopos yn broblem i gynifer o fenywod. Eleni, rydym wedi gwneud datblygiadau sylweddol yn y gwasanaethau a’r gofal rydyn ni’n ddarparu i fenywod wrth iddyn nhw fynd drwy’r menopos. Dyma giplun cyflym o sut rydym yn gwella gofal a chymorth.

Llinell Gymorth Menopos
Gyda diolch i ymdrechion ein timau gofal sylfaenol a menopos, rydym bellach yn gweithredu llinell gymorth Cyngor ar y Menopos a oedd wedi arwain at gyfathrebu di-dor rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chlinigwyr gwasanaethau menopos. Mae'r fenter hon yn sicrhau cyngor prydlon o fewn ffrâm amser o bythefnos, gan osgoi atgyfeiriadau a chyfnodau aros hir.

Nyrs Arbenigol
Rydyn ni wedi penodi nyrs arbenigol menopos, cam sylweddol tuag at ein gweledigaeth o gefnogi datblygiad staff a sefydlu gwasanaeth menopos ehangach yn y dyfodol.

Ymgynghoriadau Grŵp Fideo
Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd ein tîm Iechyd Menywod a Phlant yn lansio ymgynghoriadau grŵp fideo. Mae mewnbwn cleifion a staff wedi ein helpu i lunio'r clinigau grŵp fideo trwy grwpiau ffocws a chlinigau treial. Mae'r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda chleifion a staff yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyflwyno'r fenter hon.

Menopos a Gwella Ffordd o Fyw (MALI)
Bydd MALI yn rhaglen wyth wythnos wedi’i llunio a’i chyflwyno gan arbenigwr menopos, meddyg teulu meddygaeth ffordd o fyw, seicolegydd clinigol, a’i chefnogi gan hyfforddwyr iechyd. Bydd y rhaglen yn integreiddio 6 philer egwyddorion meddygaeth ffordd o fyw gyda chynnwys y menopos yn seiliedig ar dystiolaeth, gan greu gofod cyfannol ar gyfer gwella iechyd, cysylltiad cymdeithasol a grymuso ymhlith cyfranogwyr MALI.

Allgymorth Cymunedol
Yn angerddol am gydraddoldeb a chynhwysiant, mae tîm gwasanaeth y menopos yn cydnabod yr heriau y gall cymunedau lleiafrifoedd ethnig eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd. Rydym wedi estyn allan i Gymorth Lleiafrifoedd Ethnig y Cymoedd (VEMS) i archwilio sut y gallwn ddatblygu a gwella ein gwasanaeth, gan gynyddu ei apêl a’i gefnogaeth i fenywod o bob oed, diwylliant ac ethnigrwydd.

Cydweithwyr CTM
Mae ein hymrwymiad i gefnogi menywod yn y gweithle yn ymestyn i staff, wrth i ni gryfhau cysylltiadau â’r tîm iechyd galwedigaethol, gan symleiddio mynediad i weithwyr BIPCTM sy’n ceisio cyngor a chymorth iechyd Menopos. Y prosiect cyffrous nesaf sydd ar y gweill yw cynllunio ymgynghoriadau grwpiau fideo staff pwrpasol ochr yn ochr â’r atgyfeiriadau iechyd galwedigaethol un-i-un gan roi dewis i staff a hyblygrwydd mynediad i ofal menopos yn y gwaith.

08/03/2024