Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg – Arolwg o Iechyd Meddwl Oedolion

 

Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg – Arolwg o iechyd meddwl oedolion wedi ei lansio ar 16.03.22

Os ydych wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg  yn ystod y 12 mis diwethaf, hoffem ni (Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg - eich corff gwarchod GIG lleol) glywed eich barn am y gofal a'r cymorth a gawsoch.

Efallai eich bod wedi gofyn am gymorth gan eich meddyg teulu, nyrs gymunedol neu eich bod wedi cael asesiad gyda'r tîm argyfwng yn yr ysbyty?

Cwblhewch arolwg byr y CIC fel y gallwn roi adborth i ddarparwyr y GIG:

https://forms.office.com/r/E0CcYSc8hK

 

Bydd Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg yn rhannu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a darparwyr gwasanaethau eraill y GIG yr hyn y mae pobl yn ein cymunedau yn ei ddweud wrthynt . Mae hyn er mwyn iddynt allu gweld beth mae pobl yn ei feddwl sy'n gweithio'n dda a chymryd camau i wella'r gwasanaeth lle mae angen hyn, cyn gynted â phosibl.

I gael gwybodaeth am rai o'r gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion a ddarperir ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr ewch yma.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

I gael gwybod mwy am Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg - eich corff gwarchod GIG annibynnol lleol ewch yma.

Dilynwch y CIC ar Facebook, Twitter ac Instagram

https://www.facebook.com/CTMCHC

https://twitter.com/ctmchc

https://www.instagram.com/cwmtafmorgannwg_chc/