Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod ein Gwyddonwyr Gofal Iechyd

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi dathlu cyfraniad Ffisiolegwyr Anadlol sy’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol yn ystod pandemig COVID-19 i wella darpariaeth gofal i gleifion.

Fel arfer, byddai Ffisiolegwyr a Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn gweithio mewn lleoliadau cleifion allanol. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig mae’r garfan hon o staff wedi bod yn helpu cleifion ac aelodau eraill o staff ar wardiau, ac wedi bod yn cynorthwyo â’r gwaith o gynnig cymorth anadlu â phwysedd mewn Unedau Therapi nad yw’n Ddwys.

Mae’r Prif Ffisiolegydd Anadlol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Lee Watts, a’i dîm wedi bod yn defnyddio eu sgiliau ym maes cymorth anadlu anfewnwthiol i helpu cleifion COVID-19 sydd wedi cael eu derbyn i Ward Enfys (ward COVID-19) yn ystod ton gyntaf y pandemig a’r ail don sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Dywedodd Lee: “Roedden ni’n cynnig triniaethau yn defnyddio pwysedd positif parhaus yn y llwybr anadlu (CPAP) a therapi ocsigen llif uchel er mwyn helpu cleifion i anadlu, ac rydyn ni'n bont rhwng wardiau meddygol a gofal dwys. Buon ni’n cynnal archwiliadau na fydden ni’n eu cynnal fel arfer, e.e. monitro glwcos gwaed a rhai tasgau nyrsio sylfaenol.

“Mae blynyddoedd ers i fi dreulio llawer o amser ar y wardiau meddygol, oherwydd fel arfer rydyn ni’n gwasanaethu’r wardiau cleifion allanol. Mae ein profiad dros yr haf eleni wedi gwneud i fi barchu sgiliau slic staff y ward hyd yn oed yn fwy.

“Mae’r gydnabyddiaeth o’n cyfraniad fel ffisiolegwyr anadlol yn ystod y pandemig gan Goleg Brenhinol y Meddygon yn haeddiannol iawn. Mae gweld ein sgiliau yn cael eu hamlygu i’r staff yn yr ysbyty oedd ddim yn gyfarwydd â ni ynghynt, na beth rydyn ni’n ei wneud, wedi bod yn werth chweil.

Yn ddiweddar, mae’r tîm wedi cael ei symud i adran newydd gydag offer o’r radd flaenaf. Bydd hyn yn helpu i ymateb i’r cynnydd disgwyliedig mewn cleifion fydd yn cael eu hanfon ymlaen gyda chlefydau anadlol isorweddol ar gyfer triniaeth anadlol yn dilyn pandemig COVID-19, fydd yn cynyddu’r pwysau ar wasanaethau cleifion allanol o ddydd i ddydd.

Dywedodd Rebecca Griffiths, sy’n Ffisiolegydd Anadlol: “Mae ein maes arbenigedd fel Ffisiolegwyr Anadlol yn un niche iawn, ac rydyn ni'n ni’n delio ag amrywiaeth o glefydau anadlol.

“Oherwydd bod COVID-19 yn glefyd anadlol gan fwyaf, roedden ni’n gallu cynnig cymorth i gleifion a staff ar Ward Enfys, gan roi cymorth anadlu anfewnwthiol a CPAP i gleifion, yn ogystal â’u monitro.

Mae’r tîm wedi cael budd mawr o weithio gyda staff y ward, ac mae hyn wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw feithrin perthnasau gweithio gwell. Bydd hyn o fudd wrth i’r pandemig barhau a thu hwnt i hynny.

Dywedodd Eleri Jenkins, Ffisiolegydd Anadlol Tra Arbenigol: “Treulion ni wythnos yn rhoi hyfforddiant CPAP i dros 100 aelod o staff ar y ward.

“Roedd gweithio ar y ward gyda’r holl weithwyr iechyd proffesiynol yn agoriad llygad, oherwydd anaml iawn rydyn ni’n gweld ochr acíwt meddygaeth anadlol. Gwnaeth hyn atgyfnerthu ein rôl yn y tîm. Rydw i’n gobeithio y bydd ein hadran newydd yn helpu i ddatblygu’r tîm cyfan trwy alluogi aelodau eraill o staff gofal iechyd i ddod i’n cysgodi ac i’r gwrthwyneb.”

Mae Corey Davies newydd ymuno â’r tîm fel gwyddonydd clinigol dan hyfforddiant. Dyma oedd gyda fe i’w ddweud: “Ces i fy nenu gan yr adran newydd o’r radd flaenaf a’r cyfle gwych i ddatblygu fy sgiliau ymhellach tu hwnt i’r lleoliadau cleifion allanol arferol.

“Mae’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan y tîm yn hysbyseb wych ar gyfer ffisioleg anadlol, ac rydw i’n falch iawn i fod yn rhan ohono.”