Neidio i'r prif gynnwy

CTM yn penodi Pennaeth Bydwreigiaeth newydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi penodi Pennaeth Bydwreigiaeth newydd, Angharad Oyler, a fydd wedi’i lleoli ar safle Ysbyty’r Tywysog Siarl.

Dechreuodd Angharad ei gyrfa ym myd nyrsio a bydwreigiaeth dros 25 mlynedd yn ôl, ac mae wedi cael ei chyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ers 2005. Yno, mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau sy’n ymwneud â bydwreigiaeth, gan gynnwys llywodraethu a rheoli risg, dyletswyddau bydwraig arweiniol weithredol, a goruchwyliaeth glinigol i fydwragedd. Bu Angharad yn cadeirio fforwm Goruchwylwyr Clinigol Bydwragedd Cymru yn ystod cyflwyniad y Model a Arweinir gan Gyflogwyr.

Arweiniodd ymrwymiad Angharad i ddiogelwch cleifion a sicrhau ansawdd at ei phenodiad yn Bennaeth Diogelwch Cleifion a Sicrhau Ansawdd BIP Caerdydd a’r Fro yn y tîm nyrsio corfforaethol yn 2020, gan wasanaethu fel arweinydd proffesiynol y sefydliad ar gyfer Llywodraethu Ansawdd. Mae gan Angharad brofiad o greu a gweithredu polisïau, strategaethau, pwyllgorau, a grwpiau llywodraethu. Mae hi hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth weithredu newid ar draws y sefydliad i gefnogi’r agenda Sicrhau Ansawdd ac Effeithiolrwydd Clinigol, gan gynnwys y fframwaith Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad.

Fel rhan o’i hethos, sy’n amlwg yn ei harddull rheoli ac arwain, mae Angharad yn rhoi pwyslais mawr ar annog lles a datblygiad gweithwyr, y mae hi’n teimlo sydd â chysylltiad annatod â diogelwch cleifion a gofal o ansawdd uchel. Mae’n cefnogi hybu ymwybyddiaeth o werthoedd ac egwyddorion y BIP gan ei bod yn teimlo mai nhw yw’r sylfeini y gall diwylliant iach o ran diogelwch cleifion a dysgu ffynnu arnyn nhw.

Mae hi’n cefnogi grymuso rhieni i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal, sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. Mae Angharad yn credu bod gweithio ar y cyd â rhieni a theuluoedd yn arwain at ddatblygu a diwygio gwasanaeth ystyrlon.

Ar hyn o bryd yn Aelod Bwrdd ar gyfer Coleg Brenhinol y Bydwragedd, mae Angharad yn dylanwadu ar drefniadau llywodraethu Coleg Brenhinol y Bydwragedd i sicrhau bod budd gorau ei aelodau a’r proffesiwn bydwreigiaeth yn cael eu blaenoriaethu.

Mae Angharad wrth ei bodd i ddechrau ei swydd newydd fel Pennaeth Bydwreigiaeth yn BIP CTM, ac i ymuno â'r tîm o fewn y Grŵp Gofal Plant a Theuluoedd.

 

13/09/2023