Neidio i'r prif gynnwy

Carreg filltir allweddol ar gyfer y prosiect adnewyddu gwerth £260 miliwn yn Ysbyty'r Tywysog Siarl (YTS)

Dydd Mawrth, 21 Tachwedd, 2023 gwelsom garreg filltir allweddol yn digwydd yn YTS gan fod y mwyaf o'r ddau graen wedi gwneud ei ran ar gyfer y prosiect adnewyddu a chael ei ddatgymalu. Cymerwch olwg ar y fideo treigl amser yma.

Cafodd y craeniau eu cyflwyno ym mis Mehefin 2022 i hwyluso’r gwaith o adeiladu a gosod yr ystafelloedd peiriannau newydd sy’n gwasanaethu’r ardaloedd sy’n cael eu hailddatblygu ar hyn o bryd. Mae’r ddau graen wedi’u defnyddio i ddosbarthu deunyddiau a pheiriannau ar draws pob rhan o’r gwaith ac yn arbennig maen nhw wedi bod yn ased allweddol ar gyfer darparu deunyddiau adeiladu i gyrtiau anhygyrch, toeau, gofodau peiriannau a wynebau gwaith ynysig megis radioleg. Hyd yma mae'r ddau graen twr wedi cwblhau dros 20,000 o lifftiau llwyddiannus ar y prosiect YTS.

Disgwylir i'r prosiect adnewyddu gael ei gwblhau yn 2026.

29/11/2023