Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan y Fron Snowdrop yn agor yn swyddogol

Mae Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach, uned bwrpasol ar gyfer gofal a chymorth canser y fron, wedi agor yn swyddogol heddiw, dydd Iau 21 Medi.

Mae'r ganolfan £2m, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn ganolfan ddiagnostig a thriniaeth o'r radd flaenaf ac yn darparu 'clinig un stop' i gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.

Wedi’i hariannu ar y cyd gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru, bydd Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach yn darparu gofal a chefnogaeth i gleifion â chanser y fron nid yn unig trwy ddiagnosis a thriniaeth ond bydd modd hefyd gynnal pob apwyntiad dilynol yn yr un lleoliad. Mae hyn yn cynnwys mamograffeg y fron, sganiau uwchsain a biopsïau. Bydd cynnig yr holl wasanaethau mewn un uned arbenigol yn galluogi'r tîm gofal y fron i gynllunio triniaeth yn haws i gleifion gan gynnwys llawdriniaeth, cemotherapi, radiotherapi, meddyginiaeth, cyngor am brosthetigau a’u gosod yn ogystal â chwnsela a therapïau ategol. 

Mae’r Ganolfan wedi’i leoli ychydig y tu allan i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, ac mae wedi bod yn weithredol ers rhai misoedd; eisoes yn newid bywydau llawer o'i gleifion.

Fel rhan o’r agoriad swyddogol, manteisiodd y bwrdd iechyd ar y cyfle i anrhydeddu Clare Smart, sylfaenydd y grŵp codi arian Giving to Pink a gosod plac coffa yn ei henw yn y ganolfan. 

Roedd Clare a’r rhai a oedd yn rhan o’r grŵp codi arian eisiau i amgylchedd a dodrefn y Ganolfan gael eu hystyried yn ofalus, i gael teimlad ymlaciol a bod yn sensitif i anghenion cleifion – gwnaeth tîm Giving to Pink ymdrechion enfawr i godi arian a chodwyd mwy na £300k ar gyfer y ganolfan. 

Roedd gŵr Clare, Gareth, yng nghanolfan y fron heddiw a dywedodd: “Deilliwyd Giving to Pink o benderfyniad Clare i roi rhywbeth yn ôl i’r ysbyty a’r timau clinigol oedd yn gofalu amdani mor dda, yn ystod ei thaith ei hun drwy ganser y fron.

“Roedd Clare yn benderfynol y byddai uned bwrpasol ar gyfer gofal canser y fron yn dod yn realiti. Yn drist iawn bu farw Clare ym mis Awst, ac er bod Clare yn aml yn cael ei gweld fel wyneb Giving to Pink, i Clare roedd yn ymwneud ag ysbrydoli cymuned i gyd-dynnu.

“Parhaodd i weithio’n ddiflino yn ystod wythnosau a dyddiau olaf ei bywyd gan sicrhau y byddai’r gwaith da yn parhau.” Mae'n ychwanegu: “Wrth weld Canolfan y Fron, rwy’n hynod falch o beth gyflawnodd Clare a’r tîm. Rydw i’n gwybod y byddai Clare yn falch y bydd yn cefnogi cleifion ar adegau anodd gyda'r cyfleusterau y maen nhw’n eu haeddu. Fel teulu, rydym yn gobeithio y bydd ei hetifeddiaeth yn parhau trwy waith y Ganolfan hon ac ymdrechion codi arian parhaus Giving to Pink.” 

Dywedodd Zoe Barber, Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoplastig y Fron a Chyfarwyddwr Arbenigedd Gwasanaethau Clinigol ar gyfer Gwasanaethau’r Fron yn BIP CTM: “Mae Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach yn ddatblygiad pwysig a chyffrous a fydd yn gwella’n aruthrol y gwasanaethau gofal y fron y gallwn eu cynnig i’n cymuned. Bydd yn cynnig uned gofal y fron bwrpasol i ni gydag offer o’r radd flaenaf, gan alluogi ein tîm ymroddedig i fod yn rhan o ganolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau’r fron yng Nghymru.”

Dywedodd Kristyna Bater, un o’r bobl gyntaf i ddefnyddio Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach: “Mae'r gwahaniaeth y mae'r Ganolfan hon yn ei wneud i fenywod, fel fi, sydd â chanser y fron, yn enfawr. Ni ellir gorbwysleisio manteision cael popeth mewn un lle. Mae'r dyddiau o orfod cerdded trwy goridorau o un adran i'r llall ac aros mewn adran cleifion allanol cyffredinol orlawn wedi hen mynd heibio.

Mae'r gallu i gerdded o un ystafell i'r llall yn lle hynny yn lleihau pryder, yn ymddangos yn llawer mwy personol ac yn rhoi mwy o hyder yn y broses - ynghyd â'r staff ymroddedig, proffesiynol a gofalgar, bydd Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach, rwy'n siŵr, yn darparu'r gofal gorau posibl, helpu i leihau pryder a straen a chynorthwyo adferiad.”

Dywedodd Alex Davies-Jones, AS Pontypridd: "Roedd hi'n fraint agor Canolfan y Fron Snowdrop heddiw a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ar draws ein cymunedau. Mae'r ganolfan gofal canser y fron leol bwrpasol hon yn amhrisiadwy, ac rwyf mor ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i gael y prosiect hwn ar waith.

Rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan ganser y fron - boed hynny'n bersonol neu drwy aelod o'r teulu neu ffrind. Mae Canolfan y Fron Snowdrop yn mynd i fod yn achubiaeth enfawr i gynifer o bobl, ac mae'n fraint ei chael wedi'i lleoli yn fy ardal leol. Rwy'n edrych ymlaen at gefnogi pawb yn y ganolfan - o gleifion i staff - yn yr wythnosau, misoedd a'r blynyddoedd i ddod."

 

21/09/2023