Neidio i'r prif gynnwy

'Canolfan y Fron Snowdrop' Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn agor ddechrau 2023

snowdrop centre building

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch iawn o gyhoeddi bod uned ddiagnostig newydd o’r radd flaenaf yn agor ddiwedd Ionawr 2023. Bydd y Ganolfan wedi’i lleoli ym mharc iechyd Gwaun Elai, ger Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Cafodd yr Uned ei chyllido ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd a bydd yn cynnig un man canolog i gleifion sydd wedi’u cyfeirio gan eu meddyg teulu. 

Bydd Canolfan y Fron Snowdrop yn darparu gofal a chefnogaeth i gleifion sydd â chanser y fron, nid yn unig drwy ddiagnosis a thriniaeth ond bydd yn golygu bod eu holl apwyntiadau dilynol yn cael eu cynnal mewn un lleoliad pwrpasol. Mae hyn yn cynnwys mamograffeg y fron, apwyntiadau uwchsain a biopsi.  Bydd rhoi’r holl wasanaethau mewn un uned arbenigol yn hwyluso gwaith tîm gofal y fron o gynllunio triniaeth y cleifion gan gynnwys llawdriniaeth, cemotherapi, radiotherapi, meddyginiaeth, cyngor ar brosthetigau a ffitio prosthetigau, ynghyd â chwnsela a therapïau cyflenwol.

Dywedodd Zoe Barber, Ymgynghorydd Llawfeddyg Oncoplastig y Fron a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol Arbenigol Gwasanaethau’r Fron BIPCTM: “Mae Canolfan y Fron Snowdrop yn ddatblygiad pwysig a chyffrous a fydd wir yn gwella’r gwasanaethau rydyn ni’n gallu’u cynnig i’n cymuned. Bydd y Ganolfan yn rhoi uned gofal y fron benodol i ni, gyda’r offer diweddaraf gan alluogi ein tîm i fod yn rhan o ganolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau’r fron yng Nghymru.”

Mae’r amgylchedd a’r dodrefn wedi’u cynllunio’n ofalus i greu awyrgylch hamddenol yno, ac i fod yn sensitif i anghenion y claf. Dyma oedd gweledigaeth sylfaenydd y grŵp codi arian ‘Giving to Pink’, Clare Smart, a’r tîm. Cafodd Clare driniaeth ar gyfer Canser y Fron yn 2014 dan ofal Eifion Vaughan-Williams a oedd hefyd wedi chwarae rhan fawr o ran cefnogi’r grŵp hon. 

Roedd y rhai sy’n ymwneud â’r grŵp codi arian yn teimlo bod angen rhoi profiad mwy pleserus i’r cleifion. Dechreuodd Clare, Eifion a thîm o fenywod a oedd hefyd wedi derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron godi arian yn 2014 gan godi swm enfawr o £300k gyda chefnogaeth y gymuned. 

Mae’r grŵp codi arian yn dathlu ei 8fed blwyddyn y mis hwn. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ac mae’r tîm yn gyffrous iawn o allu cyhoeddi agoriad y ganolfan hon a fydd yn effeithio’n gadarnhaol ar gleifion y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Clare Smart: “Rwy’n falch iawn bod y Ganolfan Snowdrop yn agor yn y Flwyddyn Newydd - mae delio â diagnosis o ganser y fron yn anodd ar unrhyw adeg ond rydym bellach yn gallu cynnig y math o gyfleusterau y mae’r cleifion yn eu haeddu. Mae’r gymuned wedi cefnogi ein gweithgareddau codi arian ac mae rhai busnesau wedi bod yn hael iawn, a byddwn yn ddiolchgar iddyn nhw am byth.”

Oherwydd COVID, cafodd y gwaith o godi arian ei ohirio, ond mae Clare a’r tîm wrthi’n gwneud cynlluniau i barhau i godi arian. Os hoffech gymryd rhan, ewch i *http://www.givingtopink.co.uk am fwy o wybodaeth.

*noder bod gwefan GTP wedi’i datblygu cyn i Ben-y-bont ar Ogwr ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

20/10/2022