Neidio i'r prif gynnwy

Caffi 'colled' cymunedol yn cael ei lansio yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus Cwm Taf Morgannwg

Gall delio â cholled gael effaith fawr ar iechyd a lles person. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Galar (2-8 Rhagfyr 2022), rydyn ni’n tynnu sylw at y ffordd y mae prosiect a arweinir gan Gaplaniaeth Cwm Taf Morgannwg, y cyntaf o’i fath yng Nghwm Taf Morgannwg, yn helpu pobl i reoli profedigaeth mewn ffyrdd creadigol. 

Ar 23 Tachwedd 2022, cyflwynodd y Lighthouse Project yn Nhonyrefail, RCT, raglen cymorth cymunedol o’r enw At a Loss Café. Mae’r caffi, sy’n cael ei redeg o Ganolfan Gymunedol Tonyrefail, ar gael i unrhyw un yng Nghwm Taf Morgannwg sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â theimladau o brofedigaeth, colled neu alar.  

Mae’r caffi yn agor ei ddrysau yn dilyn cynllun peilot chwe wythnos o’r enw ‘Finding Hope within Loss and Bereavement’ – gwaith cydweithredol rhwng Caplaniaeth a thimau Gwella CTM a’n partner CTM2030 – prosiect cymunedol The Lighthouse Project.

Meddai Carolyn Castle, Caplan Arweiniol CTM:

“Ar ddechrau 2020, dechreuodd ein gwasanaeth Caplaniaeth gynnal gweithdai i gefnogi llawer o staff ar draws ein Bwrdd Iechyd a oedd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i COVID. Ar ôl gweld y budd a gafodd ein staff o’n rhaglen, ein huchelgais oedd mynd â hi i galon ein cymunedau lle y gallai wneud gwahaniaeth pellach i fywydau pobl.  

“Ar ddechrau 2022, dechreuodd y Bwrdd Iechyd gyfarfod wyneb yn wyneb â’i gymunedau i drafod CTM2030, cynllun gwaith Cwm Taf Morgannwg tuag at strategaeth sefydliadol newydd. Yn ystod digwyddiad cymunedol cyntaf CTM2030 yn y Lighthouse Project ym mis Mawrth 2022, gofynnwyd i drigolion rannu unrhyw faterion allweddol a oedd o bwys iddyn nhw; pethau bob dydd sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u lles cyffredinol. Nodwyd bod ymdopi â phrofedigaeth a cholled yn faes allweddol o bwysigrwydd cymunedol. 

“Trwy ein partneriaeth CTM2030 gyda’r Lighthouse Project, a fu’n bosibl oherwydd cefnogaeth a brwdfrydedd yr arweinydd cymunedol Dawn, a chefnogaeth ragorol ein cydweithwyr Gwella CTM, roeddem ni’n gallu rhoi ein cynllun peilot cymunedol ar waith ar 5 Hydref.”

Ychwanegodd Wendy Evans, arweinydd y cynllun peilot o Adran Caplaniaeth a Gofal Ysbrydol CTM:

“Yn ystod pob sesiwn beilot, fe wnaethom ni ddefnyddio dulliau creadigol i alluogi cyfranogwyr i rannu meddyliau a theimladau am alar, colled a phrofedigaeth, gan gynnwys delweddu creadigol, creu stori, darlunio, ysgrifennu creadigol a cherddoriaeth. 

“Dros chwe sesiwn, fe wnaethon ni dywys y cyfranogwyr yn ddiogel, ar eu cyflymder eu hunain, ar daith rhannu a chefnogi. Yn ystod pob sesiwn, roedd cyfle i fyfyrio ar alar, marwolaeth a cholled, sy’n gallu bod yn anodd eu trafod neu eu rhannu weithiau yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Fe wnaethon ni ddylunio llyfryn creadigol i gefnogi pawb a oedd yn cymryd rhan yn y sesiynau.”

Dywedodd Dawn Parkin, Arweinydd Cymunedol ar gyfer y Lighthouse Project:

“Mae cymorth profedigaeth wastad wedi bod yn agos at fy nghalon gan mai un o fy rolau yn y Fyddin Brydeinig oedd Swyddog Marwolaethau ac Anafiadau Mewn Swydd. Braint oedd cael teithio gyda'r rhai a oedd wedi colli anwyliaid a / neu wedi dioddef anafiadau a oedd wedi newid eu bywydau. Roedd hi’n amlwg y byddai partneru â BIP Cwm Taf Morgannwg yn syniad da. Roedd e’n cyd-fynd â rhan o weledigaeth y Lighthouse Project, a dangosodd arolwg byr a gynhaliwyd gydag aelodau ein grŵp yn 2021 fod gwir angen y cymorth hwn.”

“Mae ein caffi colled a phrofedigaeth ar agor i unrhyw un sy’n delio â cholled – bydd paned a chroeso cynnes yn aros amdanoch chi. Cofiwch, does dim rhaid i’ch colled fod yn brofedigaeth, fe all fod yn unrhyw fath o golled rydych chi’n ei theimlo ac efallai’n ei chael hi’n anodd ymdopi â hi.”

Rhagor o Wybodaeth

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen CTM, cysylltwch â Wendy Evans. Wendy.Evans8@wales.nhs.uk

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd ymdopi ac yn credu y gall caffi Tonyrefail eich helpu chi, mae'n cael ei redeg bob pythefnos gan y Lighthouse Project yng Nghanolfan Tonyrefail. 

Dyddiadau ac Amseroedd y Sesiynau:

Bydd y caffi yn agor ei ddrysau ar 23 Tachwedd, 1.30pm – 3pm

Bydd y sesiwn olaf cyn y Nadolig yn cael ei chynnal yr un amser ar 7 Rhagfyr, a bydd yn cynnwys Gwasanaeth Goleuo Cannwyll i Gofio ar gyfer y rhai sy’n mynychu.

Bydd y caffi yn ailagor ei ddrysau yr un amser ar 4 Ionawr, a bydd yn cael ei gynnal bob yn ail wythnos.

#CydGreuCymunedauIachach

 

01/12/2022