Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd iechyd yn croesawu penodiad cadeirydd newydd

Mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, wedi cadarnhau penodiad Jonathan Morgan heddiw yn gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae Jonathan yn dod â chyfoeth o brofiad o’i amser yn aelod o’r Senedd a gyda’r sector cyhoeddus. Yn fwyaf diweddar mae wedi gwasanaethu fel cadeirydd Bwrdd Grŵp Hendre a Bwrdd Cymdeithas Tai Hafod, ac fel Aelod Annibynnol o fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Fel aelod cynulliad, roedd Jonathan yn gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol. Bu hefyd yn gweithio’n helaeth gyda chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol Cymru fel pennaeth uned fusnes Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Rydym yn falch iawn y bydd Jonathan yn ymuno â ni fis nesaf. Bydd ehangder ei brofiad o fewn gwasanaethau cyhoeddus yn galluogi ein bwrdd i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau, wrth i ni gyflawni ein strategaeth i adeiladu cymunedau iachach gyda’n partneriaid iechyd, llywodraeth leol a’r trydydd sector.

“Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n cadeirydd sy’n gadael, Emrys Elias, am ei arweinyddiaeth eithriadol o’r bwrdd ers Tachwedd 2021, ac i ddymuno’r gorau iddo i’r dyfodol.”

Meddai Jonathan: “Rwy'n falch iawn o ymgymryd â'r rôl fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad wrth i ni geisio adeiladu cymunedau iachach gyda'n gilydd a darparu gofal o ansawdd i'n holl breswylwyr.”

Bydd Jonathan Morgan yn cychwyn ar ei rôl gyda rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ebrill. Bydd yn cymryd lle Emrys Elias y mae ei dymor o 18 mis fel cadeirydd dros dro yn dod i ben ar 31 Mawrth.

 

21/03/2023