Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dathlu'r Gymraeg

Dathlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Ddiwrnod Hawliau'r Gymraeg ddydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021, drwy hyrwyddo cyrsiau Cymraeg ymhellach ar draws ei weithlu.

Mae hawl gyda phawb yng Nghymru i gael gwasanaeth Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, ac fel Bwrdd Iechyd, mae'n hanfodol bod cydraddoldeb a chyfleoedd i’r staff ac i gleifion yn cael eu darparu fel y nodir yn Safonau'r Gymraeg.

Mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn ddarostyngedig i Safonau'r Gymraeg, sy'n golygu yn ogystal â darparu gwybodaeth hanfodol yn y Gymraeg, o lythyrau print i wefannau, mae cyfrifoldeb gyda phob aelod o’r staff i hwyluso gallu cleifion a defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio'r Gymraeg pan fyddan nhw’n dymuno gwneud hynny. 

Meddai Eleri Jenkins, Rheolwr y Gymraeg yn BIP CTM:  “Mae gweithwyr di-Gymraeg yng Nghwm Taf Morgannwg wedi mynd i’r afael â’r holl waith hwn, ac mae llawer wedi ymuno â chyrsiau Cymraeg i ddechreuwyr y mae Tîm y Gymraeg yma’n eu cynnal. 

“Rydyn ni’n cynnig llawer o gymorth i’r staff er mwyn eu galluogi nhw i ddysgu a chyfathrebu â chleifion yn Gymraeg, ac rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu'r ‘cynnig rhagweithiol' sydd wedi ei amlinellu yn Strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n annog y defnydd o'r Gymraeg ar draws ein Bwrdd Iechyd ac yn cynnig cyfle i’n gweithwyr ddysgu Cymraeg drwy ddarparu amrywiaeth eang o gyrsiau.

“Rydyn ni wedi cael ymateb gwych gan y staff hyd yn hyn, ac rydyn ni’n falch iawn o hyn, ond rydyn ni bob amser yn ceisio sicrhau bod cymaint o’n cydweithwyr â phosib yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg.  At y diben hwn, byddwn ni’n parhau i annog a helpu ein cydweithwyr i ddysgu Cymraeg er budd y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yma yng Nghwm Taf Morgannwg.”

Mae manylion yr hysbysiad cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg i’w gweld ar wefan BIP CTM yma.