Neidio i'r prif gynnwy

Arddangosfa Gelf 'Lliwiau Gobaith' yn Ysbyty George Thomas

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn falch iawn o arddangos gwaith celf creadigol ac ysgrifennu gan gleifion yn Ysbyty George Thomas ddoe.

Roedd cleifion yn yr Uned Cefnogi ac Adfer yn Ysbyty George Thomas yn falch o arddangos eu gwaith celf, sef gwaith roedden nhw wedi ei wneud dros gyfnod o ddeuddeg wythnos gyda’r artist gweledol Chris Walters a’r awdur creadigol Graham Hartill.  Enw’r arddangosfa oedd 'lliw gobaith', a gymerwyd o un o gerddi'r claf 'gwyrdd yw lliw gobaith'.

Roedd y prosiect celf 12 wythnos yn agored i unrhyw un ar uned adferiad â chymorth yr Ysbyty, a oedd am gymryd rhan.  Roedd ystod eang o ddeunyddiau celf ar gael, a gallai cleifion naill ai eistedd a siarad, tynnu llun neu ysgrifennu am bynciau oedd yn bwysig iddyn nhw. Yna cefnogodd yr artistiaid y grŵp i droi eu syniadau yn lluniadau a geiriau.

Dywedodd y Seicolegydd Clinigol, Laura Freeman: “Mae celfyddydau creadigol yn hynod bwysig fel modd o fynegiant i unigolion sydd â hanes o drawma ac anhawster.  Efallai nad oes ganddyn nhw’r hyder na’r ymddiriedaeth mewn eraill i gymryd rhan mewn therapïau siarad ond gallan nhw ddod o hyd i ffyrdd eraill o archwilio sut maen nhw’n teimlo a teimlo wedyn eu bod yn cael eu clywed a’u deall trwy waith celf. 

“Mae byw mewn ysbyty am gyfnodau hir, fel y mae ein cleifion yn gwneud, hefyd yn gallu bod yn ddiflas ac yn ddigalon ar adegau ac felly mae dod o hyd i ffyrdd diddorol a difyr o dreulio amser yn bwysig iawn.  Mae’r artistiaid Graham a Chris wedi bod yn hynod amyneddgar a chreadigol wrth ddod o hyd i ffyrdd o helpu pob unigolyn i gymryd rhan a mynegi eu hunain mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.  Pan fyddan nhw’n ymweld, mae yna ymdeimlad gwirioneddol o bobl yn dod at ei gilydd ac mae llawer o hwyl a chwerthin, mae wedi bod yn gyffrous iawn i'w weld.”

Dywedodd un o’r cleifion, James a gymerodd ran yn y prosiect: “Mae bod yn greadigol ac artistig yn helpu fy iechyd meddwl ac yn gwneud i mi deimlo fy mod wedi bod yn gwneud rhywbeth da.  Mae’r effaith yna yn para ac yn gwneud i mi deimlo’n hapus, rydw i mor hapus fy mod wedi cymryd rhan, fe wnes i fwynhau’n fawr.”

Dywedodd yr Artist Gweledol Chris Walters: “Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r ward a chleifion yn yr uned adferiad â chymorth yn Ysbyty George Thomas.  Roedd y cleifion yn hynod ddiddorol a chawsom lawer o hwyl.  Dechreuon ni drwy ofyn i’r cleifion dynnu llun siâp ar bapur gyda siarcol, yna gofynnom beth y gallen nhw ei weld allan o’r siapiau ac o hyn adeiladodd llawer wahanol ddarnau o gelf. Byddai’r artist creadigol Graham wedyn yn edrych ar eiriau a cherddi sy’n ymwneud â i'r delweddau.   Rydw i’n gweithio gyda phobl, roedd cymaint o ddiddordeb gan bawb, roedd yn wych.”

Dywedodd yr awdur creadigol, Graham Hartill: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r grŵp hwn o bobl.  Roedd syniadau’r cleifion yn anhygoel, cawsom ni gerddi a darnau ar nifer o bynciau gan gynnwys trychineb Aberfan a’u profiad o dyfu i fyny.  Roedd pawb wedi mwynhau cymryd rhan ac yn frwdfrydig iawn.  Roedd yn hyfryd gweld y darnau celf yn dod ynghyd â’r darnau ysgrifennu ar ddiwedd y prosiect.”

Dywedodd Cynghorydd RhCT Sêra Evans: “Mae’r prosiect therapi celf yn Ysbyty George Thomas yn amlwg wedi cael effaith ddofn ar les cleifion. Mae’r prosiect wedi cael effaith weladwy o ran datblygu therapïau siarad o fewn y ward, sy’n hanfodol bwysig i gefnogi’r gwaith clinigol. Mae’r prosiect wedi bod yn wirioneddol gydweithredol ei natur, o ymgysylltu â myfyrwyr Prifysgol De Cymru wrth gyflwyno’r prosiect, yn ogystal ag artistiaid ac awduron lleol, yn ogystal â’r ymyriadau clinigol – bu hwn yn ymdrech tîm, gan arwain at ganlyniadau greadigol a chadarnhaol iawn ar gyfer rhai o gleifion mwyaf agored i niwed y bwrdd iechyd. Edrychaf ymlaen at ddeall sut y gellir datblygu’r fenter ymhellach i gefnogi cleifion ymhellach.”

Dywedodd Esyllt George, Cydlynydd Celfyddydau ac Iechyd y Bwrdd Iechyd: “Rwy’n falch iawn bod tîm y celfyddydau ac iechyd wedi gallu cefnogi menter celfyddydau mor gyffrous ac ysbrydoledig yn YGT. Rydym yn bwriadu i’r gwaith hwn barhau i’r dyfodol sy’n cynnwys bod yn rhan o weledigaeth strategol ehangach wrth ddatblygu a gwreiddio’r celfyddydau ar gyfer iechyd a lles o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.”

Byddai’r ward wrth ei bodd yn parhau â gwaith creadigol gyda’r cleifion ac yn chwilio am roddion o ddeunyddiau celf newydd.  Os hoffech gyfrannu deunyddiau e-bostiwch CTM.Communications@wales.nhs.uk a gellir trefnu rhoddion i'r ward.

24/03/2023