Neidio i'r prif gynnwy

Aelod Annibynnol newydd ei phenodi - Rachel Rowlands

Rydym yn falch o groesawu Rachel Rowlands fel Aelod Annibynnol (cymuned) sydd newydd ei phenodi.

Brodores balch o Ynys-y-bŵl, yn Rhondda Cynon Taf, yw Rachel. Mae hi wedi gweithio yn y Trydydd Sector ers 27 mlynedd, yn bennaf gydag elusennau a sefydliadau sy’n ymwneud â gwella ansawdd bywyd pobl hŷn. Ers ymuno ag Age Connects Morgannwg (ACM) fel Prif Swyddog Gweithredol yn 2005, mae hi wedi arwain twf ac arallgyfeirio’r elusen mewn

ymateb i ddyheadau newidiol pobl hŷn, cymunedau a pholisi cenedlaethol. Yn fwyaf diweddar, cyflwynodd brosiect trawsnewid gwerth miliynau o bunnoedd o’r enw Cynon Linc, hyb cymunedol sy’n cynnwys gweithio rhwng cenedlaethau a rhwng asiantaethau o ofal sylfaenol i gyngor tai, o sesiynau chwarae i blant bach i weithgareddau therapiwtig ar gyfer y meddwl, y corff a’r enaid. Yn ehangach, mae Rachel yn ddylanwadol fel arweinydd trydydd sector trwy grwpiau cydweithredol cenedlaethol amrywiol fel Cynghrair Henoed Cymru a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

Mae gwaith cenedlaethol a rhanbarthol Rachel wedi cynnwys Cadeirydd Bwrdd Cenedlaethol Gofal a Thrwsio Cymru a Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg (RPB), fel Cynrychiolydd cenedlaethol y Trydydd Sector. Fel ei Gadeirydd a’r cynrychiolydd Trydydd Sector cyntaf i gael ei hethol yn Gadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, arweiniodd Rachel y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni ei Raglen Drawsnewid ochr yn ochr â rhaglen o gyllid Gofal Integredig. Bu Rachel hefyd yn ymgyrchu am un Asesiad o Anghenion Poblogaeth ac Anghenion Lles i gyflawni gofynion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, gan arwain at raglen ymgysylltu ‘Hear Our Voices’. Roedd ei chyfnod fel Cadeirydd yr RPB hefyd yn rhychwantu bron y cyfan o’r pandemig COVID-19 ac o’r herwydd, bu’n arwain y Ffrwd Waith Diogelu’r Rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) COVID-19 ar gyfer y rhanbarth.

Dywedodd Rachel: “Rwy’n falch iawn o gymryd rôl Aelod Annibynnol ac edrychaf ymlaen at barhau â gwaith gwych Mel Jehu, sydd wedi gwasanaethu’r bwrdd a’i gymunedau mor dda dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae profiad byw ein dinasyddion yn hollbwysig ac rwy’n bwriadu sicrhau ein bod ni fel Bwrdd yn gwrando, yn dysgu ac yn dangos ein hymrwymiad i wneud CTM yn fan lle mae pobl yn credu y gallan nhw ffynnu.”

Dywedodd Jonathan Morgan, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rwy'n falch iawn o groesawu Rachel fel ein Haelod Annibynnol diweddaraf o'r Bwrdd Iechyd. Daw â chyfoeth o brofiad, gan ddeall yr heriau a'r cyfleoedd i ddarparu gofal yn y gymuned i bobl yn nes at eu cartrefi. Mae gan Rachel gefndir gwych yn y trydydd sector, wedi'i gwreiddio yng Nghwm Taf Morgannwg a gwn y bydd ei phrofiad arweinyddiaeth yn ychwanegu ansawdd pellach i'r hyn a wnawn fel Bwrdd."

 

28/02/2024