Mae amrywiaeth o lyfrau lles gyda’r Gwasanaethau Llyfrgell y gall y staff eu defnyddio. Mae'r rhan fwyaf o lyfrau ar y casgliad 'Reading Well for mental health' ar gael i'w defnyddio. Dyma drosolwg o’r cyfrolau.
Os hoffech chi rywle tawel i fynd, mae llyfrgelloedd y BIP ar gael 24 awr y dydd.
Os nad oes mynediad gyda chi i lyfrgelloedd y tu allan i oriau eisoes, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cysylltu â’ch llyfrgell leol a gwneud cais i gael mynediad 24 awr.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch y cyfeiriadau isod. Rydyn ni'n croesawu negeseuon yn y Gymraeg ac ni fydd gwneud hynny yn achosi unrhyw oedi:
library.royalglamorgan@wales.nhs.uk
library.princecharles@wales.nhs.uk
Dilynwch @CTMLibs ar Twitter