Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar Fwydo o'r Potel

Os nad yw eich babi’n cael ei fwydo ar y fron neu’n cael llaeth y fron, fformiwla babanod cyntaf yw'r unig fwyd y bydd ei angen ar eich babi yn ystod y 6 mis cyntaf. Ar ôl hynny, gallwch chi ddechrau rhoi bwyd solet iddo yn ogystal â llaeth cyntaf. Nid yw llaeth dilynol a llaeth cysur neu laeth babanod newynog yn cael ei argymell. Gallwch chi ddechrau rhoi llaeth buwch cyflawn cyffredin i'ch babi yn hytrach na llaeth cyntaf pan fydd yn troi'n 1 oed. I gael gwybodaeth annibynnol a dibynadwy am laeth fformiwla, edrychwch ar First Steps Nutrition.

Mae'n bwysig iawn bod fformiwla fabanod yn cael ei pharatoi'n gywir. Gallwch ddod o hyd i gyngor ar hyn trwy'r ddolen uchod ac ar y daflen ar-lein hon.

Argymhellir bwydo ymatebol i bob babi, p'un a yw'n cael ei fwydo ar y fron neu’n cael ei fwydo â photel. Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • bwydo'ch babi pan fydd yn dangos ciwiau bwydo;
  • dal eich babi yn agos ac ymateb iddo wrth fwydo;
  • bwydo eich babi yn araf, gan ganiatáu iddo reoli cyflymder y bwydo a gorffen pan fydd wedi cael digon;
  • rhieni yn cwblhau pob cyfnod bwydo os yn bosibl, yn enwedig yn y dyddiau cynnar.

Os oes gennych unrhyw bryderon am fwydo eich babi, cysylltwch â'ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.

Am wybodaeth mewn ieithoedd heblaw Saesneg, cliciwch yma.

Taflen Bwydo Potel

diagram of baby cues

Dilynwch ni: