Neidio i'r prif gynnwy

Iselder ôl-enedigol

Yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, mae llawer o fenywod yn cael y felan, neu “the baby blues” yn Saesneg. Gall menywod sy'n profi hyn deimlo'n isel am sbel yn fuan ar ôl cael eu babi. Mae hyn yn gallu eich taro chi’n ddi-rybudd. Wedi'r cyfan, mae'n debyg eich bod chi’n disgwyl bod wrth eich bodd ar ôl cael babi. Fodd bynnag, mae'r felan yn normal a does dim byd i boeni amdano.

Beth yw symptomau’r felan?

Mae'r felan yn gyffredin iawn. Gall y symptomau gynnwys:

  • teimlo'n emosiynol ac yn afresymol
  • dechrau wylo heb fod rheswm amlwg
  • teimlo'n anniddig neu'n sensitif
  • teimlo'n isel eich ysbryd neu'n bryderus.

Fel arfer, bydd y teimladau hyn yn dechrau yn ystod yr wythnos ar ôl y geni ac yn para am ychydig ddyddiau.

Beth sy'n achosi’r felan?

Mae’r felan yn digwydd oherwydd y newidiadau hormonaidd a chemegol sydyn sy'n digwydd yn eich corff ar ôl rhoi genedigaeth. Mae eich corff (a'ch meddwl) newydd fod drwy brofiad nodedig, a bydd yn cymryd ychydig o amser i addasu. Cewch wybod mwy am beth sy’n digwydd i’ch corff ar ôl rhoi genedigaeth yma.

Gallai’r ffaith eich bod chi’n gyfrifol am berson arall erbyn hyn wedi eich taro chi. Mae'n debyg y bydd llawer o adegau hyfryd yn ystod y dyddiau cyntaf ar ôl yr enedigaeth, ond mae hyn yn gallu eich gorlethu hefyd. Nid yn unig y byddwch chi’n gwella o'r enedigaeth, ond byddwch chi hefyd yn dysgu sut i fwydo eich babi, sut i'w dawelu, sut i roi bath iddo – hyn oll, ac mae'n debyg y byddwch chi’n dysgu sut i ymdopi â llai o gwsg hefyd.

Iselder ôl-enedigol yw pan fyddwch chi’n teimlo’n drist, yn anobeithiol, yn euog neu’n beio eich hun drwy'r amser am wythnosau neu fisoedd ar ôl i chi gael babi.  

Mae’r symptomau hyn yn gallu amrywio o fod yn ysgafn i fod yn rhai difrifol, ac maen nhw’n gallu effeithio ar fenywod mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n bosib y bydd rhai menywod yn ei chael hi'n anodd gofalu amdanyn nhw eu hunain ac am eu babi os oes iselder difrifol gyda nhw.

Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl, nid yn wendid nac yn rhywbeth fydd yn diflannu ar ei ben ei hun neu y dylech chi ‘roi’r gorau iddi’. Y newyddion da yw bod modd trin iselder ôl-enedigol gyda'r gofal a'r cymorth priodol, a bydd y rhan fwyaf o fenywod yn gwella'n llwyr.

Mae'n bwysig gofyn am gymorth os ydych chi'n meddwl eich bod chi’n isel eich ysbryd. Os oes unrhyw un o'r symptomau uchod gyda chi, neu os mai’r cyfan sydd ei angen yw sgwrs, cysylltwch â'ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu.

Dilynwch ni: