Neidio i'r prif gynnwy

Peiriant ysgogi'r nerfau'n electronig trwy'r croen (TENS)

Mae peiriant TENS wedi profi i fod yn fwy effeithiol yn ystod y cyfnod cychwynnol (latent phase) a chamau cyntaf genedigaeth, ac mae’n gallu helpu i leddfu poen yn y cefn. Mae'r peiriant yn gweithio trwy ysgogi eich corff i gynhyrchu mwy o'i boenladdwyr naturiol ei hun, o’r enw endorffinau.

Does dim sgil effeithiau hysbys sydd ynghlwm wrth ddefnyddio peiriant TENS, ond ddylech chi ddim ei ddefnyddio tan ar ôl 37 wythnos o fod yn feichiog. 

Dilynwch ni: