Neidio i'r prif gynnwy

Epidwral

Math o anesthetig lleol yw epidwral, sy'n cael ei roi i chi drwy gathetr tenau i mewn i’ch cefn. Fel arfer, bydd yr epidwral yn eich atal chi rhag teimlo unrhyw boen. 

Rhaid i anesthetydd weinyddu epidwral.  Byddwch chi’n mynd ar beiriant diferu drwy eich llaw er mwyn cael hylifau os bydd eu hangen arnoch. Bydd gofyn i chi eistedd a phwyso ymlaen neu orwedd ar eich ochr gyda'ch pengliniau yn agos at eich brest.  Byddwch chi’n cael anesthetig lleol er mwyn gwneud y man lle bydd yr epidwral yn cael ei roi i chi yn ddideimlad. Yna, bydd nodwydd yn cael ei defnyddio er mwyn rhoi tiwb plastig tenau o'r enw cathetr epidwral yn eich asgwrn cefn ger y nerfau sy'n cario negeseuon poen i'ch ymennydd.  Yna, bydd y nodwydd yn cael ei thynnu allan, gan adael y cathetr yn eich asgwrn cefn fel bod modd rhoi moddion lleddfu poen i chi drwy'r cathetr.  Gall yr epidwral gymryd 20-30 munud i ddechrau gweithio.  

Bydd y cathetr yn aros yn ei le nes i chi roi genedigaeth.  Weithiau, pan fydd yr epidwral yn stopio, bydd hi’n gallu cymryd ychydig oriau i'r effeithiau ddiflannu.

Dilynwch ni: