Neidio i'r prif gynnwy

Dŵr i leddfu poen

Mae dŵr yn ffordd ragorol o leddfu poen, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n aml yn ein canolfannau geni ac yn y cartref.

Mae bod mewn dŵr yn gallu eich helpu i ymlacio ac ymdopi â’ch cyfangiadau’n well. Bydd bod mewn pwll o ddŵr yn eich helpu i fod mewn safleoedd sy'n effeithiol i’ch helpu i roi genedigaeth. Pan fyddwch chi yn y dŵr, byddwch chi’n parhau i gael eich monitro'n rheolaidd. 

Os bydd unrhyw bryderon ynglŷn â'r babi neu eich cyflwr, mae’n bosib y bydd eich bydwraig neu feddyg yn argymell eich bod chi’n gadael y pwll. 

Dilynwch ni: