Mae nifer yr achosion o’r pas (whooping cough) wedi codi'n sydyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a babanod sy'n rhy ifanc i ddechrau cael eu brechu sy’n wynebu’r risg fwyaf.
Yn aml, bydd babanod ifanc gyda’r pas yn sâl iawn, a bydd y mwyafrif ohonyn nhw’n cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd eu salwch. Pan fydd achos arbennig o ddifrifol o’r pas gyda nhw, mae’n bosib y byddan nhw’n marw.
Mae menywod beichiog yn gallu helpu i ddiogelu eu babanod trwy gael eu brechu – yn ddelfrydol rhwng 16 wythnos a 32 wythnos o’u beichiogrwydd. Os na fyddwch chi'n gallu cael y brechlyn am unrhyw reswm, mae modd i chi ei gael hyd nes i chi ddechrau rhoi genedigaeth.
Pam y dylai menywod beichiog gael y brechlyn?
Mae cael eich brechu pan fyddwch chi'n feichiog yn hynod o effeithiol o ran diogelu eich babi rhag datblygu’r pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.
Bydd yr imiwnedd byddwch chi’n ei gael gan y brechlyn yn cael ei drosglwyddo i'ch babi trwy'r brych ac yn darparu diogelwch goddefol iddo, nes ei fod yn ddigon hen i gael ei frechu rhag y pas yn 8 wythnos oed.
Pryd y dylwn i gael y brechlyn rhag y pas?
Yr adeg orau i gael eich brechu er mwyn diogelu eich babi yw rhwng 16 wythnos a 32 wythnos o’ch beichiogrwydd. Mae hyn yn gwella’r tebygolrwydd y bydd eich babi’n cael ei ddiogelu ar ôl cael ei eni, trwy drosglwyddo eich gwrthgyrff cyn genedigaeth.
Os na fyddwch chi'n gallu cael y brechlyn am unrhyw reswm, mae modd i chi ei gael hyd nes i chi ddechrau rhoi genedigaeth. Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn ddelfrydol, gan fod eich babi’n llai tebygol o gael ei ddiogelu gennych chi. Yn ystod y cam hwn o'r beichiogrwydd, mae’n bosib na fydd cael y brechiad yn diogelu eich babi’n uniongyrchol, ond byddai'n helpu i’ch diogelu chi rhag y pas a rhag ei drosglwyddo i'ch babi.
Ydy'r brechlyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?
Mae pryderon ynglŷn â diogelwch brechu yn ystod beichiogrwydd yn ddealladwy, ond does dim tystiolaeth i awgrymu bod y brechlyn rhag y pas yn anniogel i chi nac i'ch babi yn y groth.
Mae brechlyn sy'n cynnwys pertwsis (brechlyn rhag y pas) wedi cael ei ddefnyddio i frechu menywod beichiog yn y DU ers mis Hydref 2012, ac mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn monitro ei ddiogelwch yn ofalus. Dydy'r astudiaeth hon o ryw 20,000 o fenywod sydd wedi cael eu brechu ddim wedi canfod unrhyw dystiolaeth o risgiau i feichiogrwydd neu i fabanod.
Hyd yn hyn, mae tua 69% o fenywod beichiog cymwys wedi cael eu brechu rhag y pas heb unrhyw bryderon o ran diogelwch y babi neu'r fam.
Ydy brechiad rhag y pas yn ystod beichiogrwydd yn gweithio?
Ydy. Mae ymchwil sydd wedi ei chyhoeddi gan raglen frechu’r DU yn dangos bod brechu menywod beichiog rhag y pas wedi bod yn hynod o effeithiol o ran diogelu babanod ifanc nes iddyn nhw allu cael eu brechiad cyntaf yn 8 wythnos oed.
Roedd gan fabanod menywod, gafodd eu brechu o leiaf wythnos cyn y geni, 91% yn llai o risg o fynd yn sâl gyda’r pas yn ystod wythnosau cyntaf eu bywyd, o’u cymharu â babanod na chafodd eu mamau eu brechu.
Mantais arall yw y bydd y diogelwch mae'r fam yn ei gael gan y brechiad yn lleihau ei risg ei hun o gael ei heintio ac o drosglwyddo’r pas i'w babi.