Neidio i'r prif gynnwy

Wardiau triniaeth Iechyd Meddwl (Ward 21 a 22)

Beth rydyn ni’n ei wneud

Nod y Wardiau Triniaeth yw darparu gofal a chymorth i hybu adferiad pobl sydd wedi cael cyfnod acíwt o Iechyd Meddwl sydd wedi gofyn am driniaeth cleifion mewnol sylweddol.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Unrhyw un rhwng 18 a 65 oed.

Mae atgyfeiriadau i'r ward driniaeth yn cael eu cydlynu gan y Ward Derbyniadau yn dilyn cyfnod o asesiad. Nid oes unrhyw dderbyniadau uniongyrchol i'r wardiau o'r gymuned.

Beth i'w ddisgwyl

Rydym yn cynnig amgylchedd gofalgar ac yn ymdrechu i wneud adferiad claf mor llyfn â phosib gyda'r nod o nodi beth allai fod ei angen ar y person hwnnw ar ffurf cefnogaeth gwasanaeth iechyd meddwl i allu trosglwyddo'n ôl adref.

Mae'r wardiau triniaeth yn canolbwyntio ar adferiad, gan gefnogi cryfderau a chyfrifoldebau unigol o fewn y broses Cynllunio Gofal a Thriniaeth (CTP). Bydd cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn gydweithredol ac yn hyblyg ac yn galluogi’r person i wella ar ôl cyfnod acíwt o broblemau iechyd meddwl.

Mae cleifion yn cael eu grymuso i gymryd rhan yn weithredol ym mhob agwedd ar eu gofal a’u triniaeth, gan gynnal cymaint o gyfrifoldeb, dewis ac annibyniaeth â phosibl

Bydd opsiynau triniaeth yn dibynnu ar yr anghenion a aseswyd ar gyfer pob claf unigol a byddan nhw’n cael eu cynnig gan ystod o weithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys staff meddygol, nyrsio, therapi galwedigaethol a seicoleg. Bydd pob claf yn cael ei annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig i gynorthwyo eu hadferiad a'u lles.

Cysylltwch â ni

Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Yr Uned Iechyd Meddwl
Ynysmeardy
Llantrisant
CF72 8XR

01443 443443

Ward 21 : Est 74714,
Ward 22 : Est 74709

Dilynwch ni: