Neidio i'r prif gynnwy

Uned Gofal Dwys Seiciatrig, Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae’r Uned Gofal Dwys Seiciatrig (PICU) yn darparu gofal arbenigol, tymor byr, dwys, unigol i’r cleifion hynny sydd mewn cyfnod cythryblus acíwt o anhwylder meddwl difrifol, sydd â risgiau cynyddol sy’n peryglu eu lles corfforol a seicolegol yn ddifrifol neu eraill, ac sydd angen asesiad a thriniaeth mewn amgylchedd mwy rheoledig am gyfnod byr.

Mae'r uned hefyd yn darparu gwasanaeth asesu a/neu driniaeth i'r rhai y mae'r llysoedd yn credu bod angen amgylchedd diogel arnyn nhw i edrych ar eu hanghenion (mae hyn yn cynnwys carcharorion sydd wedi’u dedfrydu a'r rhai sy'n cael eu cadw ar remánd).

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae’r PICU yn derbyn atyfeiriadau gan y Ward Derbyn, Wardiau Triniaeth, Wardiau Adsefydlu Cleifion Mewnol, Timau Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng (CRHT) ac ymarferwyr fforensig ar ran gwasanaethau Diogelwch Isel, Gwasanaethau Carchardai a’r Llysoedd Barn.

Ni ellir cael derbyniad uniongyrchol i’r PICU o’r gymuned. Bydd pob derbyniad newydd yn cael ei dderbyn i'r Ward Derbyniadau lle bydd cyfnod dwys o asesu yn cael ei gefnogi gan gyfarfodydd dyddiol y tîm amlddisgyblaethol.

Beth i'w ddisgwyl

Mae'r staff yn annog cyfranogiad gweithredol a chydweithrediad y claf trwy gydol ei dderbyniad a, lle bo'n briodol, ceisir cynnwys aelodau'r teulu/pobl eraill arwyddocaol. Cydnabyddir y gall hyn fod yn gymhleth pan fydd cyflwyniad cychwynnol y claf mor gythryblus fel ei fod yn ei atal rhag cymryd rhan lawn yn y broses hon. Mewn achosion o’r fath, bydd y tîm yn ymdrechu i ddatblygu cydberthynas ac ymgysylltiad dros gyfnod o amser, er mwyn galluogi unigolion i ymwneud yn gynyddol â’u gofal ac i weithio ar y cyd i drosglwyddo’n ôl i’r ward briodol neu ardal/lleoliad addas arall.

Cysylltwch â ni

Uned Gofal Dwys Seiciatrig
Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Llantrisant
Ynysmaerdy
CF72 8XR

Rhif Ffon:

01443 443 443

Dilynwch ni: