Neidio i'r prif gynnwy

Argyfwng Iechyd Meddwl

Yn aml, bydd argyfwng iechyd meddwl yn golygu dydych chi ddim yn gallu ymdopi na rheoli eich sefyllfa mwyach.

Efallai y byddwch chi’n teimlo trallod neu obryder mawr , yn teimlo na allwch chi ymdopi â bywyd neu waith o ddydd i ddydd, yn meddwl am hunanladdiad neu hunan-niweidio , neu gweld pethau a chlywed lleisiau .

Gall argyfwng hefyd fod o ganlyniad i gyflwr meddygol isorweddol, megis dryswch neu rithdybiau a achosir gan haint, gorddos, cyffuriau anghyfreithlon neu feddwdod ag alcohol. Gall dryswch hefyd fod yn gysylltiedig â dementia.

P'un a ydych chi'n profi dirywiad sydyn mewn problem iechyd meddwl bresennol neu'n cael problemau am y tro cyntaf, bydd angen asesiad arbenigol ar unwaith i nodi'r camau gorau i'w cymryd a'ch atal rhag gwaethygu.

Dilynwch ni: