Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau Hunangymorth

Erbyn hyn, gall pobl ledled Cymru gael therapi ar-lein am ddim heb fod angen mynd trwy eu meddyg teulu.

Gall pobl 16 oed neu hŷn gyda gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol gofrestru i gymryd rhan mewn cwrs 12 wythnos o therapi gyda SilverCloud, a hynny ar-lein drwy eu ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur. Dydy SilverCloud ddim yn wasanaeth ymateb brys.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae therapi ar-lein SilverCloud yn wasanaeth hunangymorth rhad ac am ddim ac mae’n addas i:

  • Pobl 16+ oed sydd â lefelau ysgafn i gymedrol o bryder, iselder neu straen;
  • Sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru neu'n byw yng Nghymru;
  • Nad ydyn nhw’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu drydyddol (e.e. ddim o dan ofal seiciatrydd neu seicolegydd).

Pan fyddwch chi’n cofrestru, bydd gofyn i chi gwblhau set o holiaduron i'n helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn iawn i chi. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd gymryd rhan mewn asesiad ffôn pellach os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom ni. Os dydych chi ddim yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, cysylltwch â'ch meddyg teulu am help i ddod o hyd i'r gwasanaeth cywir ar gyfer eich anghenion.

Sut mae'n gweithio?

Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein a chael mynediad iddo unrhyw bryd, unrhyw le ar eich ffôn clyfar, llechen electronig, gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.

Dewiswch un o'r rhaglenni iechyd meddwl a lles ar-lein rhyngweithiol, hawdd ei ddefnyddio i'w chwblhau dros 12 wythnos. Mae help ar gael ar gyfer gorbryder, iselder, straen, cwsg, pryderon ariannol a mwy.

I gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch y gwasanaeth 15-20 munud y dydd, tair i bedair gwaith yr wythnos. Byddwch chi’n derbyn adborth bob pythefnos gan Gefnogwr SilverCloud cymwys - un o'r gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy'n cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth - wrth i chi weithio'ch ffordd trwy'ch rhaglen ar-lein.

Sut ydw i’n cofrestru?

Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hunan-atgyfeirio yn uniongyrchol, heb orfod cael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

Dysgwch fwy a chofrestrwch yma: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/ .

Am fwy o wybodaeth ebostiwch:
silver.cloud@wales.nhs.uk

Adnoddau Hunangymorth Ychwanegol

Dilynwch ni: