Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i reoli ein rhestr aros

Cadwch lygad allan am neges destun oddi wrthym ni.

Mae llawer o gleifion wedi bod yn aros yn hir i gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw oherwydd pandemig COVID-19. Rydyn ni’n gweithio'n galed i weld cleifion cyn gynted â phosib.

I’n helpu i ddeall p’un a ydy amgylchiadau cleifion wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf ai peidio, rydyn ni’n defnyddio gwasanaeth newydd. Cliciwch ar y ddolen yn eich neges destun i roi gwybod os oes angen eich apwyntiad arnoch chi o hyd.

Rydyn ni’n dechrau'r gwasanaeth hwn i gleifion sydd ar restr aros ein Hadran Dermatoleg.

Rydyn ni wedi partneru gyda'n darparwr gwasanaethau digidol, DrDoctor, i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Os byddwch chi’n cael neges destun hon, peidiwch â’i hanwybyddu hyn – mae eich ymateb yn hollbwysig i'n helpu i reoli ein rhestr aros.

 

Sut mae’n gweithio
  1. Os ydych chi’n aros am apwyntiad, byddwn ni’n anfon neges destun atoch oddi wrth +44 7860039092 yn gofyn i chi ymateb i gwestiwn ar-lein
  2. Cliciwch y ddolen drdoctor.thirdparty.nhs.uk yn eich neges i ddweud p’un a oes angen eich apwyntiad arnoch chi ai peidio.
  3. Unwaith i chi ymateb, byddwn ni’n gofyn i chi wirio’ch dyddiad geni.
  4. Yn dibynnu ar eich ymateb, byddwch chi naill ai'n parhau ar ein rhestr aros, neu byddwn ni’n eich rhyddhau yn ôl at y tîm gofal a'ch cyfeiriodd os gofynnoch chi i ni wneud hynny.

Os oes problem neu bryder meddygol gyda chi, ac os nad ydych chi’n siŵr beth i'w wneud, cysylltwch yn uniongyrchol â'ch darparwr gofal iechyd arferol (e.e. eich meddyg teulu, fferyllydd neu GIG 111).

Cwestiynau cyffredin
Ydy'r ddolen yn y neges destun yn ddibynadwy?

Mae'r ddolen drdoctor.thirdparty.nhs.uk yn eich negeseuon testun yn ddibynadwy a byddan nhw’n cael eu hanfon gan ein partner DrDoctor.

Mae DrDoctor wedi ei achredu i'r safonau uchaf sydd wedi eu gosod gan y GIG ar gyfer diogelu gwybodaeth gofal iechyd dinasyddion y DU. Am fwy o wybodaeth, gweler ardystiad Pecyn Cymorth Data ac Amddiffyn y GIG a pholisi preifatrwydd DrDoctor.

 

Pam ydych chi'n gofyn i mi am fy nyddiad geni?

Ar ôl i chi ateb y cwestiwn, byddwn ni’n gofyn i chi gadarnhau eich dyddiad geni fel bod modd i’r tîm trefnu apwyntiadau gadarnhau bod y neges destun wedi ei hanfon at y person cywir.

Os ydy'r dyddiad geni rydych chi’n ei nodi’n wahanol i'r dyddiad geni sydd gyda ni ar eich cofnodion, bydd modd i ni weld hyn a mynd ar drywydd hyn gyda chi fel y bo'n briodol.

 

Rydw i wedi rhoi’r ateb anghywir, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi wedi ateb y cwestiwn yn anghywir, peidiwch â phoeni. Gallwch chi ateb y cwestiwn eto a byddwch chi’n cael gwybod pwy i gysylltu â nhw.

Dilynwch ni: