Mae pob aelod o’r Fforwm Partneriaeth Lleol sy’n rheolwr neu’n gynrychiolydd o’r undebau llafur yn aelod llawn a chyfartal, ac maen nhw’n rhannu cyfrifoldeb am y penderfyniadau.
Wrth ymgynghori â’r sefydliadau proffesiynol a’r undebau llafur cydnabyddedig (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel undebau llafur), bydd y Bwrdd Iechyd yn cytuno ar faint a chyfansoddiad y Fforwm Partneriaeth Lleol.
Bydd Aelod Annibynnol y Bwrdd Iechyd sy’n gyfrifol am y staff yn mynychu’r Fforwm Partneriaeth Lleol yn rhinwedd ei swydd.
Fforwm Partneriaeth Lleol y Bwrdd Iechyd yw’r strwythur ffurfiol sy’n galluogi’r Bwrdd a’r undebau llafur i weithio mewn partneriaeth er mwyn gwella gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl Cwm Taf Morgannwg. Dyma’r fforwm lle bydd rhanddeiliaid allweddol y Bwrdd Iechyd yn cynnal trafodaethau ac yn cytuno ar flaenoriaethau darpariaeth o ran y gweithlu ac o ran darparu gwasanaethau iechyd.
Cyn gynted â phosib, bydd y Bwrdd Iechyd yn cynnal trafodaethau allweddol ag aelodau’r undebau llafur ynghylch materion a allai effeithio ar y gweithlu. Gallai’r trafodaethau hyn gael eu cynnal yn rhan o Fforymau Partneriaeth Lleol y Grwpiau Lleoliad Integredig, Fforwm Partneriaeth Lleol y Bwrdd Iechyd neu gyfarfod o’r Bwrdd, fel y bo’n briodol.
Gaynor Jones MBE RN, Cadeirydd Cynrychiolwyr yr Undebau Llafur
Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (Dros dro)
Laura Turner
Laura.turner2@wales.nhs.uk