Ar 14 Mehefin 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, y byddai’r cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o 1 Ebrill 2019 ymlaen.
Fel y’i cytunwyd gan y ddau Fwrdd Iechyd, sefydlwyd Y Cyd-fwrdd Trosglwyddo fel pwyllgor o’r ddau Fwrdd Iechyd i oruchwylio’r gwaith o ehangu’r ffin. Mae’r ddau Fwrdd Iechyd wedi cytuno ar y cyd ar gynllun dirprwyo sy’n nodi’r penderfyniadau sy’n gallu cael eu gwneud gan y Cyd-fwrdd Trosglwyddo.
Mae’r Byrddau unigol wedi cytuno hefyd ar gylch gorchwyl y Cyd-fwrdd Trosglwyddo ac y dylai’r aelodau gynnwys Cadeiryddion a Phrif Weithredwyr y ddau Fwrdd Iechyd, aelod annibynnol o bob Bwrdd Iechyd, Cyfarwyddwyr Gweithredol a swyddogion allweddol yn ôl yr angen. Mae gweithwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cynrychioli ar y grŵp hefyd a bydd cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru yn arsylwi ar y grŵp.
Mae’r Cyd-fwrdd Trosglwyddo yn cyfarfod bob mis ac yn cael cymorth gan Gyd-grŵp y Rhaglen Drosglwyddo i oruchwylio a derbyn adroddiadau gan ffrydiau gwaith sydd eisoes wedi eu sefydlu.