Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelydd Iechyd CTM yn cael ei chydnabod am waith rhagorol

Yn gynharach y mis hwn, roedd Martha Sercombe o Gwm Taf Morgannwg yn un o ddim ond pump o Ymwelwyr Iechyd o bob rhan o'r DU i gael ei henwebu gan y Sefydliad Ymwelwyr Iechyd i fynychu'r gwasanaeth carolau 'Gyda'n Gilydd yn y Nadolig' yn Abaty San Steffan.

Derbyniodd Martha ei gwahoddiad personol gan Dduges Caergrawnt, i gydnabod ei chefnogaeth anhygoel i fabanod, plant a theuluoedd trwy ei gwaith. 

Cefnogwyd y digwyddiad gan y Sefydliad Brenhinol, i gydnabod a dathlu gwaith anhygoel unigolion a sefydliadau ledled y DU sydd wedi camu i’r adwy i gefnogi eu cymunedau trwy'r pandemig.

Wrth siarad am y profiad dywedodd Martha: “Roedd yn anrhydedd anhygoel cael fy enwebu ochr yn ochr â phum Ymwelydd Iechyd arall o bob rhan o’r DU. Roedd yn brofiad gwych ac yn un y byddaf yn ei gofio am byth. Mae Ymwelwyr Iechyd wedi cael amser heriol yn ystod y pandemig ac mae'n wych bod ein gwaith yn cael ei gydnabod fel hyn. "

Mae Martha yn ymwelydd iechyd arbenigol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol a babanod, ac mae'n 'hyrwyddwr' ar gyfer iechyd meddwl rhieni, babanod a phlant ifanc.

Mae hi'n defnyddio pob cyfle i godi proffil iechyd meddwl amenedigol a babanod - ac i sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth yn ystod y pandemig. Mae hi wedi camu i’r adwy ac wedi mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd lawer gwaith yn ystod y pandemig, ac mae ei hangerdd a'i phendantrwydd i wneud gwahaniaeth i iechyd meddwl a lles teuluoedd wedi bod yn ysbrydoliaeth barhaus iddi.

Recordiwyd y gwasanaeth carolau a bydd yn cael ei ddarlledu ar ITV am 7.30pm ar Noswyl Nadolig.