Neidio i'r prif gynnwy

'Y diolch a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen ar staff y GIG ar hyn o bryd'

Ymddangosodd yr erthygl hon ar wefan Coleg Brenhinol y Meddygon. Gallwch gael gwybod rhagor am waith y Coleg yng Nghymru yma

Ar Ddiwrnod Amser i Siarad 2021, Mae Dr Helen Lane, meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, wedi cyhoeddi cerdd newydd, 'Mae'n dda siarad'. Trodd at ysgrifennu barddoniaeth fel ffordd i ymlacio yn ystod y pandemig. Yma, mae'n trafod ei phrofiadau yn ystod pandemig COVID-19:

Dechreuais farddoni er mwyn cael rhywfaint o ryddhad pan ddechreuodd pwysau emosiynol y pandemig effeithio ar fy ngallu i fod yn fam ac yn wraig ‘normal’.

Dwi wedi sgwennu llawer o gerddi, ond dim ond dwy dwi wedi eu rhannu yn gyhoeddus. Cafodd y gyntaf ei chyhoeddi ar sianeli’r Bwrdd Iechyd ar y cyfryngau cymdeithasol, a ches i fy synnu gan faint o bobl mewn profedigaeth wnaeth gysylltu, yn diolch i’r staff am ofalu am eu hanwyliaid pan nad oedden nhw’n gallu.

Dyna’r diolch a’r gydnabyddiaeth sydd eu hangen ar staff y GIG ar hyn o bryd.

Dwi ddim yn ofni dangos fy ochr deimladwy, ac mae unrhyw un sy’n credu fod gweithio yn y rheng flaen yn ystod y pandemig heb effeithio arno’n siŵr o fod yn twyllo ei hun.

Am fisoedd bellach, rydyn ni i gyd wedi bod yn byw ac yn gweithio o dan bwysau meddyliol a chorfforol aruthrol bob dydd. Mae’r straen emosiynol wedi cael ei wthio i’r naill ochr wrth i ni ymladd y frwydr fwyaf rydyn ni wedi bod yn rhan ohoni erioed. Rydyn ni’n ofni y gallai mynegi’r emosiynau hyn ein hatal rhag darparu’r gofal sydd ei angen yn ddirfawr ar gleifion a’u teuluoedd.

Fel Meddygon, rydyn ni’n gwybod ein bod yn weithwyr rheng flaen hanfodol, ond pan ddechreuodd hyn roedden ni i gyd yn ofni beth doedden ni ddim yn ei wybod. Mae nifer ohonon ni wedi dioddef o COVID-19 ein hun; mae nifer o rai eraill wedi gweithio yn lle cydweithwyr oedd yn dioddef o’r afiechyd, wrth bryderu amdanyn nhw fel ffrindiau ar yr un pryd. Mae rhai ohonon ni hyd yn oed wedi gorfod gofalu am ein cydweithwyr a’n ffrindiau yn ein hysbyty ein hun, gan roi emosiynau i’r naill ochr fel bod modd i ni barhau i fod yn gymwys ac yn broffesiynol. Mae cydweithwyr iau a myfyrwyr meddygol wedi dangos cadernid anhygoel. Maen nhw wedi ein helpu ni gymaint ag ydyn ni wedi eu helpu nhw.

Rydyn ni i gyd yn ymwybodol dros ben o’r difrod sy’n ein disgwyl.

Ac yn gefndir i hyn oll, mae stori bersonol gyda ni i’w hadrodd: am yr effaith arnon ni, ac ar ein teuluoedd sy’n ein caru a’n cefnogi er mwyn i ni allu helpu pobl eraill.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi effeithio’n anferthol ar weithlu cyfan y GIG. Mae pawb sy’n gweithio mewn ysbyty wedi ei chael hi’n anodd oherwydd beth maen nhw wedi ei weld. Efallai bod y newyddion wedi canolbwyntio ar y meddygon a’r nyrsys, yn enwedig y rheiny sy’n darparu Gofal Dwys, ond yn bersonol dwi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu claf, cysuro teulu, coginio ein prydau, glanhau ein wardiau, presgripsiynu ein moddion, cydlynu ein hymateb i COVID-19, brechu ein staff a’n perthnasau, ateb galwadau ffôn gan bobl bryderus, canfod gwelyau, helpu gyda’r gwaith o adsefydlu cleifion sy’n goroesi, a helpu teuluoedd cleifion sydd heb oroesi. Mae’r rhestr yn hirfaith.

Hoffwn ddiolch yn enwedig i’r bobl sy’n gofyn i ni sut rydyn ni’n ymdopi; mae hyn yn helpu gadael tipyn bach o emosiwn o’r blwch, digon i’n cadw ni i fynd.
………………

'Mae’n bwysig siarad'

Rwy’n rhuthro i’r ward
Yn gweddïo ei fod yn fyw.
Mae’n ceisio gwenu -
fy ngwobr i.

Mae ei deulu’n ddiolchgar
Mor werthfawr, ond di-wyneb hefyd.
Cymaint o deimlad, cymaint o ofn
Does dim modd rhoi pris ar ei fywyd.

Af nôl i fy swyddfa
Fe bara’ i hyd diwedd heddi.
Mae’r blodau’n dweud wrthyf
Am aros yn hirach na hynny.

Ond mae pob dydd yn anodd
I’r staff fan hyn.
Dioddef yn dawel
Heb feiddio dweud dim.

Gweithwyr cefnogol,
Rhannau creiddiol o’r peiriant,
Yn gweld y galar bob dydd
Ar wynebau prudd.

Pwy fydd yn holi’r porthor
Sy’n gobeithio am newydd da
Wrth ofalu am y cleifion,
Cyn ffarwelio am y tro ola?

Pwy fydd yn holi’r gweithwyr domestig
Sy’n glanhau gwelyau gwag
Y rhai sydd wedi 
gadael?

Pwy fydd yn holi’r arlwywyr
Sy’n ein bwydo bob dydd?
Mewn perygl dyddiol
Ond yn parhau, gan wybod

Bod angen ein gilydd arnon ni
Nawr yn fwy nag erioed.
Fe ddown ni drwyddi,
Ond dim ond gyda’n gilydd.

 

Dr Helen Lane, Meddyg Ymgynghorol
Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Gwella Ansawdd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg