Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth Newydd

Mae Cwm Taf Morgannwg (CTM) UHB wedi penodi Suzanne Hardacre fel ei Chyfarwyddwr Bydwreigiaeth, Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol Integredig newydd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi penodi Suzanne Hardacre yn Gyfarwyddwr Bydwreigiaeth, Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol Integredig newydd.

Mae Suzanne yn ymuno â CTM o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro lle mae hi wedi bod yn Bennaeth Nyrsio Bydwreigiaeth a Gynaecoleg ers 2015.

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Suzanne: “Rydw i wrth fy modd yn cael fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Bydwreigiaeth, Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol Integredig, a theimlaf ei bod yn fraint ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar adeg mor bwysig. Er gwaethaf yr heriau yn sgil pandemig COVID-19, mae'r brwdfrydedd a'r angerdd a ddangoswyd gan y tîm a'u hymgyrch i ddarparu’r gwasanaethau mamolaeth mwyaf diogel yn y DU wedi creu argraff arnaf.”

Ar ôl dechrau ei gyrfa yn ardal CTM fel nyrs gofrestredig yn Ysbyty Cyffredinol Dwyrain Morgannwg ym 1995, aeth Suzanne ymlaen i gwblhau ei haddysg bydwreigiaeth yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru ym 1998.

Mae wedi dal swyddi bydwreigiaeth uwch mewn ymarfer clinigol ac ar lefel uwch-reolwyr, ac mae ei phrofiad yn cynnwys rolau strategol a chenedlaethol allweddol wrth ddatblygu Llwybr Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwiliadau Rheolaidd i Gam-drin Domestig, Goruchwyliaeth Glinigol i Fydwragedd yng Nghymru a Gweledigaeth Cymru Gyfan ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru (2019-2024).

Mae Suzanne yn angerddol am rôl iechyd cyhoeddus y fydwraig a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i fenywod a theuluoedd. Mae'n cwblhau doethuriaeth ar hyn o bryd lle mae ei hymchwil yn ymchwilio i brofiad menywod o frechu yn ystod beichiogrwydd. 

Meddai Greg Dix, ein Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Mae profiad Suzanne yn ei gwneud yn ased gwych i'r tîm yma yn CTM. Mae ein Gwasanaethau Mamolaeth wedi hen ddechrau ar y daith i wella ac rwy'n gwybod y bydd Suzanne yn parhau i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n cymunedau.”

@ SuzanneHardacr1