Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o ddewis i gleifion wrth i wasanaethau gofal sylfaenol addasu i bandemig

Mae defnyddio technoleg fideo arloesol newydd wedi bod o fudd i breswylwyr hŷn yng nghymoedd y De, gan ei gwneud yn bosibl iddyn nhw gymryd mwy o ran yn eu gofal eu hun.

Mae Attend Anywhere yn system ar-lein, sy’n cael ei ddefnyddio bob dydd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae’n ei gwneud yn bosibl i gleifion mewn ysbytai a chleifion meddygon teulu gynnal ymgynghoriad â’u meddyg ar-lein gan ddefnyddio llechen neu ffôn. O wneud hynny, fe all cleifion dderbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw o gysur eu cartref.

Er bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio bob dydd mewn meddygfeydd gyda chleifion, mae prosiect peilot wedi bod ar y gweill i ddefnyddio’r dechnoleg mewn cartrefi gofal hefyd gyda’r henoed.

Yn rhan o’r cynllun peilot, mae Nyrsys Cymunedol yn hwyluso ymgynghoriadau â’r preswylwyr mewn cartrefi gofal, wrth gynnal eu hymweliadau rheolaidd â chartrefi ledled y rhanbarth.

Dywedodd Clare Flesher, Uwch-ymarferydd Nyrsio Cymunedol sy’n cefnogi’r meddygfeydd ledled ardal Gogledd Cynon:

“O’r blaen, os oedden ni gyda claf ac os oedd angen barn meddyg teulu arnon ni, yna bydden ni wedi gorfod ffonio’r feddygfa ac aros tan oedd meddyg ar gael. Wedyn, byddai’r meddyg wedi gorfod ymweld â’r claf a bydden ni wedyn yn mynd yn ôl yn nes ymlaen yn y diwrnod, i roi rhwymyn newydd er enghraifft.

“Mantais fawr Attend Anywhere yw ei fod yn gadael i fi weithio’n agos gyda’r meddyg teulu a gwneud penderfyniadau pwysig am ofal claf, heb yr angen am ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Mae fel bod gydag ail bâr o lygaid. Gall y meddyg teulu weld beth rydw i’n ei weld a rhoi cyngor i ni am y ffordd orau ymlaen, a hynny o bell, er mwyn cadw pawb yn ddiogel.”

Mae defnyddio’r dechnoleg newydd hon yn un o’r ffyrdd ymhlith nifer y mae gwasanaethau gofal sylfaenol wedi addasu dros y flwyddyn ddiwethaf ledled Cwm Taf Morgannwg, er mwyn goresgyn heriau’r pandemig a chadw cleifion mor ddiogel â phosibl.
Dywedodd Dr Owen Thomas, meddyg teulu yn y Ganolfan Iechyd yn Aberdâr, fod y technolegau newydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i gleifion ddefnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol mewn modd mwy effeithlon:
“Mae dod o hyd i ffyrdd fel hyn o wella cyfathrebu â’n cleifion mwyaf bregus ar yr adeg anodd hon, ac ymestyn gafael ein harbenigedd meddygol yn y gymuned, wedi bod yn gyffrous iawn. Mae’n rhaid i ni edrych am y pethau positif yn ystod yr adegau heriol hyn, ac rydw i wir yn credu bod gan y gwasanaeth hwn y potensial i drawsffurfio gwasanaethau cleifion allanol ledled ein Bwrdd Iechyd.

“Un o brif heriau’r GIG, ar wahân i’r heriau amlwg mae’n eu hwynebu oherwydd pandemig COVID-19, yw bod cleifion yn trefnu apwyntiad gyda meddyg teulu yn aml er nad yw eu cyflwr yn golygu bod angen gofal gan feddyg teulu o gwbl. Bydd cyflwyno gwasanaethau fel Attend Anywhere yn lleihau’r nifer o apwyntiadau diangen, a bydd hefyd yn ein helpu i wneud yn siŵr bod modd i ni weld cleifion yn y ffordd iawn.”

I’n helpu ni i leddfu ar y pwysau sydd ar feddygfeydd, ac i atgoffa cleifion o’r gwahanol ffyrdd sydd ar gael iddyn nhw i gael cyngor a chymorth, bydd ymgyrch yn cael ei lansio y mis hwn yn tynnu sylw at wasanaethau gofal sylfaenol a sut y gall cleifion dderbyn gofal yn ystod y pandemig. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar y nifer fawr o weithwyr proffesiynol gwahanol mewn gofal sylfaenol sydd ar gael i gleifion yn agos at gartref.

Er mai’r feddygfa fydd y gwasanaeth cyntaf y bydd y mwyafrif o gleifion yn galw arno pan fyddan nhw’n dost, neu pan fyddan nhw’n cael anaf, neges y Bwrdd Iechyd yw bod gwasanaethau mwy addas ar gael mewn rhai achosion.

Ychwanegodd Julie Denley, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae gofal sylfaenol yn datblygu ac yn newid o hyd ac o hyd, ac mae’r pandemig wedi cyflymu hynny.

“Mae gan gleifion ddewis o weithwyr proffesiynol y gallan nhw eu gweld yn lleol, a dydy hynny ddim wedi newid. Rydyn ni ar agor o hyd ac yma i helpu cleifion, ond rydyn ni am atgoffa cleifion i ddefnyddio’r gwasanaethau iawn yn y ffordd iawn, ac i fanteisio ar y technolegau newydd arloesol sy’n helpu i’n cadw ni oll yn ddiogel yn ystod y pandemig.”

Ymunwch â sgwrs am #EichTîmLleol #YourLocalTeam ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol @CwmTafMorgannwg neu chwiliwch am yr hashnod.