Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwyddonydd Clinigol yn cyflawni cydnabyddiaeth genedlaethol gan yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd

Mae’r Dr Jonathan Arthur (Jon) wedi llwyddo i gael ei gynnwys ar y Gofrestr Gwyddonwyr Arbenigol Uwch yn Academi'r Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae hyn yn ymwneud â'i waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymwneud ag ymarfer proffesiynol, ymarfer gwyddonol, ymarfer clinigol, ymchwil, datblygu ac arloesi ac arweinyddiaeth glinigol. Unwaith y bydd ar y gofrestr, bydd yn dod yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Gofal Iechyd.

Mae Jon yn Bennaeth Awdioleg ac mae ganddo uwch-ddarlithyddiaeth anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe hefyd.  Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dangos “cyfwerthedd” mewn dau gynllun cenedlaethol sydd ar gael drwy'r Academi Gwyddor Gofal Iechyd (AHCS).

Dywedodd Jon Arthur, “Es i drwy'r rhaglen Hyfforddiant Gwyddonwyr (STP) yn 2019 a des i’n wyddonydd clinigol cofrestredig. Rydw i bellach wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd Mae fy rhaglen cywerthedd gychwynnol yn cydnabod sgiliau ymarfer uwch a gwybodaeth ar lefel M.Sc. Wedyn, dilynais raglen waith debyg lle aseswyd fy sgiliau, fy ngwybodaeth ac fy mhrofiad ar lefel doethuriaeth. Roeddwn i'n meddwl, gan fy mod eisoes wedi cael doethuriaeth, na fyddai unrhyw niwed wrth wneud cais am gywerthedd ar lefel HSSR”

“Yng Nghymru, gall Gwyddonwyr Gofal Iechyd wneud cais am gyllid ar gyfer cyfwerthedd trwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Llwyddais i sicrhau cyllid ar gyfer y ddwy raglen cyfwerthedd drwy AaGIC. Roedd cynllun cywerthedd y rhaglen Hyfforddiant Gwyddonol Arbenigol Uwch (HSST) yn cynnwys cyflwyno cais cychwynnol ac wedi hynny cyflwyno portffolio o dystiolaeth oedd yn dangos fy mod yn gweithio ar y lefel honno. Aseswyd hyn gan Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol a dilynodd broses adolygu gadarn. Rydw i wrth fy modd i dderbyn cydnabyddiaeth am fy ngwaith o fewn y Bwrdd Iechyd”.