Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Glawcoma yn agor yn Ysbyty Cymunedol Maesteg

Yn gynharach y mis hwn, daeth y cleifion cyntaf i’r clinig Glawcoma newydd sbon yn Ysbyty Cymunedol Maesteg.

Yn cynnwys dwy ystafell glinigol wedi'u hadnewyddu, gyda chyfarpar offthalmoleg o'r radd flaenaf, y bwriad yw i'r gwasanaeth redeg bob dydd gan gynnig cyfle i gleifion o ardal Maesteg a thu hwnt gael yr un lefel o ofal glawcoma ag y maen nhw wedi arfer â’i derbyn yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ond mewn lleoliad cymunedol.

Mae aelodau o Dîm Glawcoma Tywysoges Cymru yn staffio'r clinigau, gan weithio mewn cylchdro. Bydd y wybodaeth glinigol fydd yn cael ei chasglu ym Maesteg yn cael ei hanfon yn electronig at aelodau uwch o staff yn Ysbyty Tywysoges Cymru i'w hadolygu, felly bydd y gwasanaeth yn un diogel ac yn economaidd.

Roedd y cleifion cyntaf yn gwerthfawrogi'r amgylchedd tawel sydd wedi ei awyru’n dda, y rhwyddineb parcio a phroffesiynoldeb y staff.

Dywedodd Mr David Lewis, o Gaerau, “Mae mor dda gweld yr ysbyty lleol hyfryd hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau fel hyn. Mae'n gyfleus iawn i fi ac yn llawer haws na mynd i Ben-y-bont ar Ogwr.”

 

Yn y llun: Ivor Radford, oedd y claf cyntaf i gael ei weld yn y clinig yn gynharach y mis hwn.