Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad BIP CTM ynghylch brechu rhag COVID-19

Rhoddwyd y brechiad COVID-19 cyntaf yn CTM ar 7 Rhagfyr y llynedd ac am flwyddyn mae wedi bod ers hynny!  Yr wythnos hon, byddwn yn gweld carreg filltir arwyddocaol pan gyrhaeddwn 1 miliwn o ddosau brechlyn yn CTM - fyddai neb ohonom wedi disgwyl y nifer hwnnw pan aethom ati yn dechrau.

Gyda'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar ein gwarthaf, mae'n amser i fyfyrio ar y gwaith sydd wedi ei wneud i roi’r brechlynnau — mae wedi gofyn am waith tîm ymroddedig, awydd i ddysgu a gwella'n barhaus ac yn anad dim caredigrwydd hefyd.  Mae'r cyhoedd wedi bod yn amyneddgar mewn ciwiau ac yn hael gyda chanmoliaeth ac anrhegion.  Mae timau o bob maes gan gynnwys porthorion, gwirfoddolwyr, gyrwyr, fferylliaeth, canolfannau hamdden, gweinyddu, canolfannau galwadau, y gweithlu, nyrsio, cyfleusterau, cynllunio a gwybodaeth oll wedi dod at ei gilydd. Maent wedi ateb pob her ac wedi ymateb i bob cyhoeddiad newydd.  Yn wyneb tasg na welwyd erioed ei thebyg, dydyn ni ddim bob amser wedi gwneud pethau'n iawn, ond rydym bob amser wedi dysgu a gwella.   Mae hynny wedi ein galluogi i roi dosau atgyfnerthu dair gwaith yn gyflymach nag unrhyw beth arall rydym wedi'i wneud o'r blaen, sy’n gyflawniad enfawr o fewn dim ond 5 diwrnod.

Rydym i gyd yn gobeithio y bydd 2022 yn ychydig yn fwy tawel ac y gallwn frwydro yn erbyn y gwaethaf y gall Omicron neu unrhyw amrywiad arall ei daflu atom ni, un pigiad ar y tro.

Diolch am eich cefnogaeth ddi-ball i raglen waith mor hanfodol — heboch chi, ni allem fod wedi cyflawni hyn.

Clare Williams

Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Phartneriaethau, a’r Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer Brechu COVID-19 yn CTM

Darllenwch fwy yma