Neidio i'r prif gynnwy

Cystadleuaeth ffotograffiaeth yn rhoi lles yn y ffrâm

Mae lluniau o fannau o harddwch naturiol ar draws ardal ein Bwrdd Iechyd gafodd eu cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth ffotograffiaeth bellach yn barod i’w beirniadu – ac mae angen eich help chi arnom ni!

Cynhaliodd ein Hadran Ymchwil a Datblygu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg y gystadleuaeth yn ystod y cyfnod clo fel modd o annog staff ac aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan mewn rhywbeth cadarnhaol trwy anfon lluniau o fyd natur yn eu hardal leol atom er mwyn gwella eu lles. Anfonwyd mwy na 100 o luniau atom, a bellach rydyn ni wedi llunio rhestr fer o 3 llun o bob ardal, ac rydyn ni’n gadael i chi bleidleisio dros eich ffefryn.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar y cyd ag Uprise Print, cwmni argraffu digidol o Lantrisant. Cafodd ein ffotograffwyr brwd eu gwahodd i anfon lluniau atom o harddwch naturiol ledled ardaloedd Merthyr Tudful a Chwm Cynon, y Rhondda a Thaf-Elái a Phen-y-bont ar Ogwr. Rydyn ni wedi rhannu 3 llun o bob ardal ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. Dyma’r cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer:

Merthyr Tudful a Chwm Cynon:

Y Rhondda a Thaf Elái:

Pen-y-bont ar Ogwr:

Cynhaliwyd y gystadleuaeth er mwyn dathlu Canolfan Ymchwil Glinigol newydd, fydd yn agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn gwella cyfleusterau ymchwil presennol y Bwrdd Iechyd. Bydd pob llun buddugol yn cael ei chwyddo a’i arddangos yn barhaol yn nerbynfa’r Ganolfan Ymchwil Glinigol, a bydd yr enillwyr hefyd yn cael copi o’u llun wedi ei argraffu ar Foamex gan Uprise Print iddyn nhw gael ei gadw.

Gallwch weld pleidlais ar gyfer pob ardal ar ein tudalen Twitter. Bydd y bleidlais yn cau ddydd Iau 18 Chwefror.