Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun optometreg yn arwain at lai o atgyfeiriadau i'r ysbyty

Mae cynllun optometreg arloesol yn lleihau nifer yr atgyfeiriadau i’r ysbyty ac yn rhoi triniaeth i gleifion yn agosach at eu cartref yn ystod y pandemig.

Mae cleifion yn RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr yn elwa ar Gynllun Presgripsiynu Annibynnol Optometreg, sydd wedi galluogi saith optometrydd ledled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddefnyddio eu sgiliau fel Presgripsiynwyr Annibynnol cymwysedig.

Mae’r hyfforddiant a’r cymhwyster ychwanegol yn galluogi Optometryddion i ddarparu mwy o ofal llygaid, gan bresgripsiynu moddion yn uniongyrchol i gleifion heb fod angen eu cyfeirio nhw at yr ysbyty neu at wasanaethau meddyg teulu.

Meddai Timothy Palmer, sy’n Ymgynghorydd Optometreg Annibynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Yng Nghwm Taf Morgannwg, mae saith optometrydd wedi dilyn y cymwysterau presgripsiynu annibynnol sy’n eu galluogi nhw i roi diagnosis a thriniaeth i gleifion, yn ogystal ag ysgrifennu presgripsiwn i drin cyflwr ar y llygad os bydd angen.

“Ers dechrau’r gwasanaeth ym mis Hydref y llynedd, mae 300 a mwy o gleifion wedi cael eu trin gan Bresgripsiynwyr Annibynnol ac mae 90% ohonyn nhw wedi osgoi gorfod mynd at y meddyg teulu neu i’r ysbyty.

“Mae hyn yn golygu bod tua 250 o apwyntiadau wedi cael eu harbed eisoes mewn adrannau ysbytai. Yn ystod y pandemig, mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig ac wedi helpu adrannau’r ysbytai ar adeg pan mae llawer ohonyn nhw eisoes dan bwysau mawr. Yn ogystal â hynny, mae’n galluogi’r Adran Llygaid i flaenoriaethu cleifion gyda chyflyrau cymhleth ar eu llygaid, wrth i gleifion eraill cael eu trin yn agosach at eu cartref mewn modd diogel a chyfleus."

Meddai Owain Mealing, un o’r Optometryddion sydd wedi dilyn y cymhwyster:

“Fel arfer, byddem ni’n canfod cyflwr ar y llygad ac yna’n gorfod atgyfeirio’r claf i’r ysbyty am driniaeth. Erbyn hyn, gyda’r cymhwyster Presgripsiynu Annibynnol, rydyn ni’n gallu canfod y cyflwr, rhoi diagnosis ohono a thrin y cyflwr nes y bydd yn gwella, heb i’r cleifion orfod mynd i’r ysbyty na gweld meddyg. Rydyn ni’n cadw’r cleifion yn y gymuned ac mae’n braf bod dull holistaidd gyda ni er mwyn i ni allu eu gweld nhw o’r dechrau i’r diwedd.

“Mae presgripsiynu annibynnol wedi datblygu fy sgiliau cryn dipyn, o ran rhoi diagnosis i’r cleifion sy’n dod drwy’r drws, y sicrwydd fy mod i’n gallu eu gweld nhw o’r dechrau i’r diwedd fel nad oes rhaid i mi ddibynnu ar y meddygon i roi adborth i mi yn gyntaf, ac mae’r boddhad yn anhygoel gan fy mod i’n trin y cyflwr o’r dechrau i’r diwedd.

“Mae’n hynod o fanteisiol i’r holl gleifion gan nad oes rhaid iddyn nhw deithio hanner cymaint i fynd i’r ysbyty am driniaeth. Hefyd, rhaid aros am lot llai o amser fel arfer ac mae llai o ddibyniaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw i’w gweld yn hapus iawn wrth ddod i weld clinigydd lleol sy’n mynd i drin y broblem gyda’u llygad."

Mae saith Optometrydd Presgripsiynu Annibynnol yn ardal Cwm Taf Morgannwg. I ddefnyddio’r gwasanaeth, siaradwch â’ch optometrydd lleol.